Yn ôl i'r brig

When The Dragons Came Back To Wales & The Planets

Hafan » Beth sy' mlaen » When The Dragons Came Back To Wales & The Planets
Teulu

Mae’r sioe ddyrchafol, aml-liw, seicedelig, golau uwchfioled hon yn cael ei pherfformio i gyfeiliant cyfres newydd o gerddoriaeth gan y cyfansoddwr o Gymru, Lenny Sayers, yn seiliedig ar stori gan Stuart H. Bawler.

Mae Awel, merch 10 oed o dref fawr, yn aros gyda’i thad-cu a’i mam-gu dros yr haf yn un o gymoedd Cymru sydd heb signal! A hithau wedi diflasu, mae hi’n cymryd rhan mewn prosiect cymunedol i greu Draig Gymreig ar gyfer cefn car cárnifal. A hithau wedi’i hysbrydoli gan bryfed, barcuta ac adar, mae hi’n dod yn gyfrifol am y prosiect ac yn creu Draig aerodynamig enfawr. Y noson cyn y cárnifal, mae storm ffyrnig yn taro ac mae’r Ddraig yn dianc, gan ddechrau digwyddiadau sy’n effeithio ar y byd i gyd!

Mae Hummadruz yn unigryw yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ac yn defnyddio masgiau, dawns, pypedau bach a mawr, syrcas, hud llwyfan a cherddoriaeth i adrodd eu straeon. Mae eu sioeau yn brydferth, yn llawen, yn ddieiriau, yn amlsynnwyr, yn cael eu perfformio o dan olau uwchfioled ac yn integreiddio Makaton fel iaith weledol.

Oed: 5+ – Perfformiad yn y tywyllwch, felly, gall rhai golygfeydd fod yn rhyfedd i rai plant bach.

Yn addas ar gyfer teuluoedd, y rhai sy’n hoff o gerddoriaeth glasurol a’r rhai ag anawsterau cyfathrebu.

Wedi’i chefnogi gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Glan yr Afon Casnewydd a Citrus Arts.

Mae arddull adrodd straeon unigryw Hummadruz yn defnyddio dawns, pypedau a syrcas ar gyfer sioeau amlsynnwyr dieiriau.

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

12 Medi 2025

The Take That Experience

Cerddoriaeth
13 Medi 2025

Big Girls Don’t Cry

Cerddoriaeth
17 Medi 2025

An Evening with Jonathan Davies

Adloniant
1 Hydref 2025 - 3 Hydref 2025

Dai Cula: Prince of the Valleys

Theatre