Rydym wrth ein bodd yn dod â’r noson arbennig hon i’r Coed-Duon.
Heb os, Jonathan Davies yq un o’r enwau mwyaf yn hanes rygbi Cymru. Chwaraeodd yn y 1980au a’r 1990au, a chynrychiolodd Gymru yn rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair. Fe chwaraeodd rygbi i glybiau yng Nghymru, Lloegr ac Awstralia. Ers hynny mae Davies wedi dod yn sylwebydd teledu ac yn amlwg ar y cyfryngau, yn y Gymraeg a Saesneg.
Ar y noson hon, cawn glywed am ei ddechreuadau yn Nhrimsaran, am ei ddyddiau yng Nghastell-Nedd, Llanelli, Caerdydd, Widness a Warrington ac heddi fel cyflwynydd sioe ei hun ar S4C a sylwebydd teledu a radio.
Bydd cyfle hefyd i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau yn ein sesiwn holi-ac-ateb yn yr ail hanner.
Noson wych i unrhyw wir gefnogwr o Rygbi.