Os chwi sy’n chwilio am chwerthin di-stop, archebwch eich seddi ar gyfer “Aladdin”, pantomeim llawn hwyl eleni gan Rainbow Valley Productions. Wrth gadw’r holl elfennau clasurol sy’n gwneud pantomeimiau mor boblogaidd, mae’r pwyslais yn y fersiwn newydd hon o Aladdin yn gadarn ar gomedi.
Os yw’n wir mai chwerthin yw’r feddyginiaeth orau, yna dylid cynnig y cynhyrchiad hwn ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i weini ar lwy sgleiniog o leiaf ddwywaith y dydd. Yn ogystal â’r jôcs a’r hwyl, y gêm eiriau ffraeth a’r comedi ffisegol (slapstick) doniol, bydd digon o ganu, dawnsio, rhamant, hud, dirgelwch a chyffro i ddiddanu cynulleidfaoedd o bob oed.