Yn ôl i'r brig

Mannau

Mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, amrywiaeth o ystafelloedd, pob un â dewisiadau gwahanol o ran cynllun, ar gael i’w llogi am gyfraddau cystadleuol iawn. Felly mae’n lle unigryw a delfrydol i gynnal eich perfformiad, cynhadledd, cyfarfod, gweithdy neu hyd yn oed parti!

Llogi gofod

Photo of empty space available to hire at BMI

Ynghyd â theatr amlddefnydd sydd â system theatr hyblyg, mae gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, hefyd nifer o ystafelloedd cyfarfod cyfforddus a mannau llai ffurfiol, yn ogystal â bar stiwdio, gofod galeri a stiwdio dawns.

Pecyn Gwybodaeth Llogi Ystafell >

Yr hyn y gallwn ei gynnig:

  • Awditoriwm theatr mawr i hyd at 420 o gynadleddwyr gyda system seddi y gellir ei haddasu er mwyn defnyddio’r llawr cyfan ar gyfer arddangosfeydd, ffeiriau masnach ac ati.
  • Gofod bar stiwdio y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol achlysuron, digwyddiadau a pherfformiadau i hyd at 200 o bobl.
  • Ystafelloedd cynadledda i hyd at 15 o bobl mewn arddull ystafell fwrdd.
  • Gofodau bar a galeri i hyd at 50 o bobl ar gyfer arddangosiadau neu achlysuron.
  • Mynediad diwifr i’r rhyngrwyd ar gael ym mhob man (wedi’i ddiogelu â chyfrinair).
  • Ystod lawn o gyfarpar clyweledol gyda chymorth technegol ar gael.
  • Stiwardiaid ac ystlyswyr proffesiynol sy’n sicrhau cysur, diogelwch a lles eich cynulleidfa.
  • Cyfleusterau parcio cyfyngedig.

Contact us to enquire about your Room Hire requirements >


Llogi ar gyfer perfformiad

Photo of hall set up for a live performance

Mae’r theatr amlddefnydd gyda seddi y gellir eu tynnu’n ôl yn cynnig hyblygrwydd i gynyrchiadau o unrhyw faint.  Gyda staff gwybodus a phroffesiynol yn barod i’ch helpu, gellir dibynnu ar Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, i ddarparu profiad unigryw a difyr i’ch cwmni a’ch cynulleidfa.

Pecyn Gwybodaeth Llogi Am Berfformiadau >

Yr hyn y gallwn ei gynnig:

  • Awditoriwm theatr mawr gyda seddi i 419 ar y mwyaf (neu le i 470 sefyll). Hefyd mae gan y theatr system seddi y gellir ei haddasu fel y gall perfformiadau gael eu cyflwyno ar y llwyfan neu ar y llawr er mwyn cael profiad agosach.
  • Gofod Bar Stiwdio hyblyg y gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol achlysuron, digwyddiadau a pherfformiadau gyda lle i hyd at 200.
  • Mae gan y ddau ofod systemau sain, cerddoriaeth a goleuo ardderchog yn ogystal â chyfleuster taflunio digidol.
  • Mynediad diwifr i’r rhyngrwyd ar gael ym mhob man (wedi’i ddiogelu â chyfrinair.
  • Ystod lawn o gyfarpar clyweledol gyda chymorth technegol.
  • Cymorth marchnata proffesiynol ar gael.
  • Gwerthu tocynnau a nwyddau trwy ein system swyddfa docynnau gyfrifiadurol a all weithio ar lein.
  • Stiwardiaid ac ystlyswyr proffesiynol sy’n sicrhau cysur, diogelwch a lles eich cynulleidfa.
  • Cyfleusterau parcio cyfyngedig – nodwch mai nifer gyfyngedig iawn o fannau parcio sydd a dim ond ar gais y cânt eu dyrannu.

Cysylltwch â ni i holi am eich gofynion Llogi Perfformiad >