Yn ôl i'r brig

Dai Cula: Prince of the Valleys

Hafan » Beth sy' mlaen » Dai Cula: Prince of the Valleys
Theatre

Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno

Comedi newydd gan Richard Tunley

Wedi iddo wylio’r holl gyfres o Who Do You Think You Are? Mae Dracula yn credu’n sicr bod ganddo gwaed brenhinol, diolch i gysylltiad amheus rhwng ‘Vlad the Impaler’ a Thywysog Cymru. Felly, mae’n archebu arch o Temu sy’n cyrraedd mewn pecyn gwastad, yn cadw lle mewn Airbnb, a bant â fe i’r Fforest Ddu…ond, mae’n diweddu lan yng Nghoed-duon yng nghymoedd De Cymru!

Yn y lle cyntaf, mae’r bobl leol yn meddwl ei fod yn gymeriad ecsentrig sy’n gwisgo clogwyn. Ond wrth i bobl fynd ar goll heb reswm, mae’r garfan rheoli pla yn cael ei galw i ymchwilio’r cynnydd sydyn yn nifer yr ystlumod, mae trigolion y dref yn dechrau ystyried os yw’r ymwelydd newydd yn gymeriad arferol…

Comedi llawn chwerthin, balchder tua’r cymoedd, a rhyw faint o garlleg. Dyma gomedi am hunaniaeth, treftadaeth, a gwir ystyr bod yn Gymreig.

Black RAT Productions sy’n gyfrifol am y cynhyrchiad, felly byddwch yn barod am sioe llawn mynd, doniol, ac un sy’n aros yn y cof.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Efallai yr hoffech chi hefyd...

19 Mehefin 2025

One Foot In The Groove

Cerddoriaeth
12 Medi 2025

The Take That Experience

Cerddoriaeth
13 Medi 2025

Big Girls Don’t Cry

Cerddoriaeth
17 Medi 2025

An Evening with Jonathan Davies

Adloniant