Cyn fand teithiol Les McKeown yn perfformio caneuon poblogaidd y Bay City Rollers
Mae’r ‘Legendaries’ yn cynnwys aelodau o fand teithiol terfynol Les McKeown, sef Scott McGowan, Phil Hendriks, Nick Gornall a Darren Lee. Yr ychwanegiad diweddaraf yw Dave Major ar yr allweddellau, a oedd wedi dirprwyo o’r blaen ar gyfer y band ar sawl achlysur.
Roedd Scott McGowan wedi bod yn rhan o fand Les am dros 12 mlynedd, yn gyntaf fel gitarydd, yna ar yr allweddellau, a nawr mae’n dychwelyd i’r gitâr a chanu.
Ymunodd Phil Hendriks ‘Les McKeown’s Legendary 1970s Bay City Rollers’ fel gitarydd yn 2011, yn syth ar ôl cyfnod o 3 blynedd yn fersiwn Eric Faulkner, gitarydd gwreiddiol y Rollers, o’r band.
Yn ystod cyfnod Scott a Phill gyda band Les McKeown, perfformiodd y band nifer o deithiau tramor mewn gwledydd sy’n cynnwys Awstralia, Japan, Canada, yn ogystal â theithiau blynyddol yn y DU, gwyliau a nifer o ymddangosiadau teledu. Roedden nhw hefyd yn rhan o’r band cefndir yn sioeau ‘aduniad’ enwog y Rollers yn 2015 a 2016, a oedd yn cynnwys aelodau gwreiddiol Les McKeown, Alan Longmuir a ‘Woody’ ac yn cynnwys sioe ar y teledu yng ngŵyl ‘T in the Park’ a’r rhaglen deledu ‘Hogmanay Live’. Mae Scott a Phil bellach yn rhannu rôl y prif leisydd yn ‘The Legendaries’.
Roedd Darren Lee wedi camu i’r adwy yn aml ar y drymiau cyn dod yn aelod amser llawn yn 2019, fel y gwnaeth y baswr Nick Gornall, y ddau wedi sefydlu eu hunain yn gadarn gyda dwy daith o Japan, taith arenâu y DU, teithiau theatrau y DU a thaith dyngedfennol Canada yn 2020, a gafodd ei gwtogi hanner ffordd drwodd oherwydd pandemig Covid-19 ac a fyddai’n anffodus yn daith olaf Les McKeown.
Mae Bay City Rollermania yn sioe deyrnged gyda ‘The Legendaries’ ac nid yw wedi’i chysylltu’n swyddogol nac wedi’i chymeradwyo gan Bay City Rollers Limited mewn unrhyw ffordd.