Yn ôl i'r brig

Y Dewis

Hafan » Beth sy' mlaen » Y Dewis
Dance

Gêm lawn dewisiadau yw bywyd.
Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton.

Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd.
Ymunwch â’n gwesteiwyr, cyflwynydd byw a’r llefarwr ar y sgrin, Natura. Gyda’i gilydd fe fyddant yn eich cludo o amgylchedd cyfarwydd eich ardal chi i ben clogwyni epig Ynys Môn. Yno, bydd pedwar person ifanc, pob un â’i stori i’w dweud, yn cyfarfod yng ngwaith brics hardd, adfeiliedig Porth Wen.

A gyda chymorth y Cyflwynydd, chi sy’n cael penderfynu sut y bydd stori pob un ohonynt yn datblygu. Bydd y dewisiadau y byddwch chi’n eu gwneud ar y cyd yn synnu pob un ohonynt. Pwy ŵyr? Chithau hefyd efallai.

Cynhyrchiad Jones y Ddawns yw hwn a wnaed gyda Sekai Media, Theatr Clwyd, Pontio, Dawns i Bawb, Hwb Byddar Cymru a gyda chefnogaeth cyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Kulturrådet, Tŷ Cerdd, Abderrahim Crickmay Charitable Trust, Magic Little Grant via Local Giving.

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

25 Ebrill 2026

10 Years of Studio 54

Entertainment
28 Ebrill 2026

The Four Seasons

Dance
1 Mai 2026

The Carpenters – Voice of The Heart

Music
2 Mai 2026

Mr Blue Sky

Music