Mae Tiny & Tall Productions, sef Tessa Bide Productions gynt, yn cyflwyno stori hoffus Julia Donaldson a Sara Ogilvie, The Detective Dog ar y llwyfan i gynulleidfaoedd byddar a thrwm eu clyw, yn ogystal â’u teuluoedd nhw.
Boed yn darganfod esgid goll neu bwy wnaeth faeddu ar y llwybr graean newydd, mae trwyn prysur Nell bob amser yn gweithio’n galed. Felly pan fydd llyfrau’r ysgol wedi diflannu un bore, mae Nell y Ci Ditectif yn barod i arogli ei ffordd at y troseddwr!
Ar gael gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau creadigol a Saesneg llafar, mae’r cynhyrchiad deniadol hwn yn dathlu llyfrau a hud darllen mewn perfformiad cynhwysol a hygyrch. Gallwch chi ddisgwyl pypedau hudolus, arogleuon annisgwyl a cherddoriaeth i ddeffro’r traed. Addas i bobl rhwng 3 a 103 oed.
Wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Mae’r dramateiddiad hwn o THE DETECTIVE DOG yn seiliedig ar y llyfr lluniau THE DETECTIVE DOG, testun © Julia Donaldson 2016 a darluniau © Sara Ogilvie 2016, a gyhoeddwyd gan Macmillan Children’s Books.