Dewch ynghyd! Mae Morgan & West yn ôl gyda sioe hud a lledrith aruthrol i blant (a’u rhieni plentynnaidd)!
Bydd y swae hudol hynod ddoniol ac anhygoel hon yn llawn syndod, rhyfeddod a chwerthin, sydd am blesio pobl pump a 105 oed, a phawb rhwng yr oedrannau hynny!
Mae Morgan & West wedi dangos eu sgiliau gwyddonol nhw yn Unbelievable Science (taith genedlaethol), wedi dod ag ewyllys da i bawb trwy’r Great Big Christmas Magic Show (taith genedlaethol), wedi ceisio dianc o The Slammer (CBBC), ac wedi hyd yn oed twyllo Penn & Teller (ITV/CW Network). Y tymor hwn, mae eu sioe hud a lledrith newydd sbon yn llawn ffraethineb nodweddiadol, yn chwareus, ac yn andros o ffôl.
Dwli dewinol, campau cyfrin, hwyl helaeth, a mygydau mawreddog i gyd wedi’u gwasgu i awr o hwyl ddiddiwedd i’r teulu cyfan.