Yn ôl i'r brig

Macbeth

Hafan » Beth sy' mlaen » Macbeth
Theatre

Yn y stori glasurol hon o drachwant ac euogrwydd, mae ‘Macbeth’ gan Flabbergast Theatre yn dod ag agweddau manwl a pharchus at destun ac adrodd straeon er mwyn dod â dehongliad hudol, eglur o drychineb gwaedlyd Shakespeare yn fyw.
Wrth fanteisio ar eu cryfderau a chefndiroedd mewn pypedwaith, clown, masg, ensemble a theatr gorfforol, mae Flabbergast Theatre wedi datblygu’u cynhyrchiad cyntaf ar sail testun naratif, (ar ôl ymchwil a datblygiad eang gyda Wilton’s Musical Hall, Llundain, a’r Grotowski Institute, Gwlad Pwyl). Maen nhw’n cyflwyno testun gwreiddiol y bardd, wedi’i gynorthwyo gan gerddoriaeth fywiog yn fyw, er mwyn cynhyrchu sioe bryfoclyd a hygyrch.

Mae’r elfennau lleisiol a cherddorol yn dod at ei gilydd mewn seinwedd bwerus byw, i greu awyrgylch sy’n adlewyrchu ac yn cyferbynnu’r weithred. Gan ddefnyddio set foel a dyluniad hardd, mae’r ensemble clos hwn o actorion yn perfformio fersiwn distaw ac emosiynol o graidd y gwaith a’r themâu sylfaenol.

Mae Flabbergast Theatre yn cyflwyno dehongliad greddfol o drychineb mwyaf truenus Shakespeare, gan dynnu sylw at y tebygrwydd â’n cymdeithas fodern. Yn y bôn, y brif thema gylchol a naratif sylfaenol sy’n gyrru ‘The Tragedy of Macbeth’ yw’r gwrywaidd yn ofni pŵer y benywaidd. O ran yr agwedd hon, mae’r ddrama mor berthnasol heddiw ag erioed.

Mae’r gwaith diamser hwn yn canolbwyntio ar beth oedd ystyr bod yn ddyn, beth oedd ystyr bod yn fenyw, ac yn pwysleisio’r cytundebau cymdeithasol rhwng y ddau sy’n gosod gweithgareddau’r prif gymeriadau. Mae’r syniad bod cenedl yn gred gymdeithasol yn fwyaf clir mewn ymson “unsex me here” Lady Macbeth, wrth iddi hi frwydro rhoi ei rôl fenywaidd o’r neilltu, rhag ofn ei bod hi’n rhwystro’i huchelgeisiau distaw. Ac mae’r gwrachod, sy’n gallu ymddangos yn hen wrachod neu forwynion, yn ymgorffori’r pŵer a oedd yn fygythiad i’r sefydliad patriarchaidd.

Perfformiad i bawb ei fwynhau, p’un ydych chi’n newydd ym myd y theatr neu wedi bod yn mynychu am sbel. Mae fersiwn Flabbergast Theatre yn ail-adrodd hanes gwaedlyd Shakespeare o newid yn huawdl ac o’r galon.

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

7 Chwefror 2024

Hauntings

Theatre
29 Tachwedd 2023

Lore

Dawns
20 Mawrth 2024

Hot House

Dawns
13 Mawrth 2024

Tam Lin Retold

Theatre