Yn ôl i'r brig

Hot House

Hafan » Beth sy' mlaen » Hot House
Dawns

Mae’r cwmni o fri rhyngwladol, Richard Chappell Dance yn dod i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon y gwanwyn nesaf gyda’u cynhyrchiad diweddaraf Hot House.

Mewn ymateb angerddol i’r argyfwng costau byw, mae Hot House yn rhannu’r rhwystredigaeth sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd gan lawer, gan droi’r egni dwys hwnnw yn ddathliad pwerus o haelioni ar y cyd. Gan ddarparu rhywle i bobl ddod at ei gilydd a chodi eu calon gan ensemble arbennig o berfformwyr y cwmni, mae’r sioe newydd hon yn cynnwys seinwedd a gafodd ei dylanwadu gan gerddoriaeth glasurol Tsieineaidd, Indiaidd ac Ewropeaidd, wedi’i haildrefnu a’i pherfformio gan y feiolinydd Enyuan Khong a’r ddeuawd cerddoriaeth electronig Larch.

Ar ôl llwyddiant cynhyrchiad diweddar Richard Chappell Dance Infinite Ways Home, mae Hot House yn noson feiddgar, drawsnewidiol sy’n dathlu llawenydd symud a cherddoriaeth mewn lleoliad lle mae cyngerdd yn cwrdd â choelcerth

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

29 Tachwedd 2023

Lore

Dawns
17 Tachwedd 2023

Macbeth

Theatre
13 Mawrth 2024

Tam Lin Retold

Theatre
7 Chwefror 2024

Hauntings

Theatre