‘Wedi’i dyfeisio gan yr Artist Digidol, Nic Sandiland, y Coreograffydd, Yael Flexer, a’r cwmni, mae Imagining Otherwise yn ddawns ddigidol swynol sy’n archwilio’r posibilrwydd o brofiadau cyfochrog, a’r llu o ddewisiadau sy’n deillio ohoni.
Mae testun llafar ffraeth Wendy Houstoun wedi’i blethu â thafluniadau llawr deinamig gweledol wedi’u siapio gan berfformiad byw. Wrth i’r dawnswyr symud, mae eu gweithredoedd yn creu olion gweledol sy’n llithro’n araf i gefndir y dirwedd ddigidol, gan ddwyn i gof straeon sydd wedi’u hanghofio’n rhannol a’r posibiliadau y maen nhw’n eu cynnig.
Mae Imagining Otherwise yn creu syniadau am ddaearyddiaeth, byrhoedledd, a sut rydyn ni’n effeithio ar ein hamgylchedd. Mae’n archwilio’n chwareus y posibiliadau diddiwedd sydd gennym ni o’n penderfyniadau dyddiol a’n dymuniad i bethau fod yn wahanol.
Beth am os ydyn ni’n dilyn dewis gwahanol?’