Yn ôl i'r brig

Hags: A Magical Extravaganza

Hafan » Beth sy' mlaen » Hags: A Magical Extravaganza
Theatre

Yn Bideford ym 1682, cafodd y treial gwrach olaf ym Mhrydain ei gynnal. Cafodd tair dynes eu cyhuddo o ddewiniaeth, eu treialu a’u crogi.

Gan neidio ymlaen at y presennol, enwch un consuriwr benywaidd…eithaf anodd. Ond heno, mae tair menyw di-ofn yn dringo allan o’u bocsys, yn cael gwared ar y secwinau a’n ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd mewn tref fechan yng Ngogledd Dyfnaint dros 300 mlynedd yn ôl.

Yn llawn o driciau hud, comedi corfforol a cherddoriaeth fyw, mae ein consurwyr yn archwilio’r mania helfa wrachod a ysgubodd y wlad ac anfon cannoedd o ferched diniwed i’r crocbren. Gyda rhithiau syfrdanol, styntiau ysblennydd ac ambell gwningen sy’n diflannu, mae ‘Hags’ yn rhannu’r gwir ar gyfer miloedd o fenywod sydd wedi’u camgyhuddo gyda’r holl lawenydd, ffolineb ac ysblander posibl.

“Mae Hags yn swyno ac yn hudo wrth i gyfrinachau tywyll, triciau dwylo ac erchyllterau hanesyddol ddatblygu.” British Theatre Guide’

Efallai yr hoffech chi hefyd...

25 Ebrill 2026

10 Years of Studio 54

Entertainment
28 Ebrill 2026

The Four Seasons

Dance
1 Mai 2026

The Carpenters – Voice of The Heart

Music
2 Mai 2026

Mr Blue Sky

Music