Yn syth o’r Unol Daleithiau gyda’i daith Stylistics Songbook Tour 2023, dyma sioe na ddylid ei cholli, am un noson yn unig!
Byddwch chi’n clywed caneuon megis: “You Make Me Feel Brand New”; “Can’t Give You Anything (But My Love)”; “You Are Everything”; “Betcha By Golly, Wow”; “Stone In Love With You”; “Break Up To Make Up”; “Sing Baby Sing”; “Rockin’ Roll Baby”; “16 Bars”… A llawer, llawer mwy!
Eban Brown, gyda’i lais tenor llyfn a’i ffalseto rhywiol, oedd prif leisydd The Stylistics am bron i 20 mlynedd, gan deithio’r Deyrnas Unedig hyd at 2018. Mae’r sioe yn llawn dawn gerddorol, yn cynnwys lleisiau syfrdanol a bydd pob un o’r caneuon hyn yn dod â hen atgofion yn ôl ac yn gwneud i chi deimlo’n dda iawn y tu mewn!
Tynnwch y llwch oddi ar eich sgidiau dawnsio a dod am noson o ramant gyda’ch anwyliaid, neu am noson gyda’r merched! Ni fydd y sioe hon yn siomi.