Yn ôl i'r brig

Trychfilod a’r Campau Campus

Hafan » Beth sy' mlaen » Trychfilod a’r Campau Campus
Family

Gyda phrisio Talu’r Hyn a Allwch chi’n syml, talwch yr hyn rydych chi’n ei deimlo! Dewiswch o ddewis am ddim i £15 a chefnogwch waith newydd yn eich cymuned.

Oes gen ti dy gyhyrau’n barod a dy naid seren orau wedi’i berffeithio?! Os felly, mae’n amser ymuno gyda’r Trychfilod a’r Campau Campus!

Dewch i brofi hwyl yr ŵyl a chymerwch ran yn y gemau byrbwyll o dan ofal eich cyflwynwyr, y ddau griced direidus! Pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth nofio, y pry cop neu’r wlithen?! Siwt siap fydd ar y pili pala wrth iddi geisio codi pwysau?! Ydy hi’n bosib i falwoden allu gwisgo menyg focsio?!

Llawenhewch ym miri mawr y seremoni agoriadol a chyd-ganwch Anthem Genedlaethol y Trychfilod yn y sioe lliwgar yma ar gyfer y teulu gyfan.

Crewyd gan Familia de la Noche gyda cherddoriaeth newydd gan HMS Morris ac wedi cynhyrchu mewn partneriaeth â Canolfan Mileniwm Cymru, Articulture, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Theatr Clwyd, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Gwên o Haf Caerdydd. Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music
12 Medi 2026

The Rocket Man – A Tribute to Elton John

Music
17 Medi 2026

Mynyddislwyn Male Choir

Music