Mae Lipstick On Your Collar yn ôl gyda’i sioe newydd sbon!
Ewch yn ôl mewn amser i oes euraidd cerddoriaeth pan roedd y jiwcbocs yn rhuo a phawb yn dawnsio’n egnïol. Paratowch eich esgidiau dawnsio chi, cydio mewn ysgytlaeth ac ymlacio – rydych chi ar fin profi noson o ganeuon gwych y 50au a’r 60au!
O enedigaeth Roc a Rôl hyd at synau Beat Group y British Invasion a thu hwnt, mae’r sioe dan ei sang gyda dros ddeugain o ganeuon enwog gan bobl fel Connie Francis, Brenda Lee, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, The Ronettes, Cliff Richard, Cilla Black a llawer mwy.
A hithau’n cael ei pherfformio gan fand byw llawn, sy’n cynnwys rhai o gerddorion gorau’r wlad, mae’r sioe anhygoel hon yn cynnwys lleisiau rhagorol, harmonïau tynn ac ymdeimlad heintus o hwyl.
Mae dawnsio yn yr eiliau yn gwbl orfodol, felly dewch â’ch esgidiau dawnsio a mwynhau amseroedd da!