Yn ôl i'r brig

Austen’s Women: LADY SUSAN

Hafan » Beth sy' mlaen » Austen’s Women: LADY SUSAN
Theatre

Gan grewyr arobryn Austen’s Women, A Christmas Carol, I, Elizabeth, Female Gothic, Christmas Gothic, ac A Room of One’s Own.

Mae Austen’s Women yn ôl – mewn sioe newydd sbon! Lady Susan, y weddw ddu ddi-hid, fflyrtlyd, sy’n hela nid un, ond dau waddol; ei merch orthrymus, wrthryfelgar, Frederica; ei chwaer yng nghyfraith ddioddefgar Catherine; y matriarch teuluol Mrs De Courcy; a’i ffrind gorau difater, Alicia.

Ewch yn ôl i’r Rhaglywiaeth (neu’n hytrach, Sioraidd) yn y stori ddoniol dywyll hon am gymdeithas a’r merched sy’n gaeth ynddi; eu trafferthion, eu dymuniadau, eu temtasiynau a’u dylanwadau — ac ar y blaen, Lady Susan: yn ddymunol, yn gynllwyngar, yn ffraeth, a’n bwerus; yn herio cymdeithas a’i gwneud yn gymdeithas ei hun. Ond a yw hi wedi taro ar ei chystal?

Yn seiliedig ar waith llawn cyntaf Jane Austen o 1794, ac wedi’i greu’n gyfan gwbl o lythyrau, mae’r darn yn cael ei berfformio gan Rebecca Vaughan a’i gyfarwyddo gan Andrew Margerison.

Wedi’i greu ar y cyd â The Old Town Hall, Hemel Hempstead.

 

Canmoliaeth i Dyad Productions:

★★★★★ ‘A towering performance‘ (The Scotsman)

★★★★★ ‘A luscious sweeping tale’ (The i)

★★★★★ ‘Quite simply: astounding’ (Broadway Baby)

★★★★★ ’Outstanding…gripping… Vaughan is never less than magnetic’ (Three Weeks)

★★★★★ ‘If you haven’t seen Dyad Productions’ work before, you simply must’ (British Theatre Guide)

‘Some of the most electrifying character work available, up to and including Berkoff’ (Fringe Review)

THREE WEEKS Cumulative Body of Work Award-Winners, 2018

Efallai yr hoffech chi hefyd...

1 Mai 2026

The Carpenters – Voice of The Heart

Music
2 Mai 2026

Mr Blue Sky

Music
6 Mai 2026 - 7 Mai 2026

Lee Gilbert

Music
8 Mai 2026 - 10 Gorffennaf 2026

Comedy Night

Comedy