Yn ôl i'r brig

An Evening with Shane, Lee & Hookie

Hafan » Beth sy' mlaen » An Evening with Shane, Lee & Hookie
Adloniant

Archebu blaenoriaeth i aelodau. Cyhoeddus Ar Werth 21/06/24.

Fel y dywedodd yr anhygoel Muhammad Ali unwaith – “Cyfeillgarwch yw’r peth anoddaf yn y byd i’w egluro. Nid yw’n rhywbeth ry’ch chi’n ei ddysgu yn yr ysgol. Ond os nad ydych chi wedi dysgu ystyr cyfeillgarwch, dy’ch chi heb ddysgu dim byd mewn gwirionedd.”

Dyma dri o gewri’r byd chwaraeon – cyn-chwaraewyr rygbi rhyngwladol yn gwasanaethu Cymru yn wych ynghyd â’r Llewod a’r Gweilch. Ond nid dim ond mabolgampwyr gwych – mae’r tri hefyd yn ffrindiau gorau.

Yn ystod y noson hon byddwn yn clywed am eu cyfeillgarwch ynghyd â’r hanesion ar y cae rygbi ac oddi arno.

Heb os bydd hi’n noson i’w chofio.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

31 Gorffennaf 2024

Webster & Jones: Guided Tours

Teulu
1 Awst 2024

BOMBA Airways

Teulu
2 Awst 2024

Trychfilod a’r Campau Campus

Teulu
7 Awst 2024

Gwen yr Arth Wen

Teulu