Perfformiad Cymraeg yw hwn.
Mae Gwen, arth wen bryderus, yn deffro ar gap iâ wedi torri, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’i theulu. Ar ei thaith beryglus drwy Gefnfor yr Arctig, bydd yn rhaid iddi ddod o hyd i’w dewrder, yn ogystal â’i ffordd adref.
Perfformiad gweledol a myfyriol yn y Gymraeg am newid hinsawdd, cartref a magu hyder, ar gyfer cynulleidfaoedd 6+ oed a’u teuluoedd. Gyda themâu newid hinsawdd, cartref a hyder wrth ei chalon, mae Gwen yr Arth Wen yn gweu cerddoriaeth, pypedau a ffurf weledol o adrodd straeon i greu sioe gyfoethog a chyffrous am ddod o hyd i’r hyder ynoch chi’ch hun. Perfformiad llawen a myfyriol yn y Gymraeg ar gyfer cynulleidfaoedd 6+ oed a’u teuluoedd.
Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn Chris Harris, ei gyfarwyddo gan Elan Isaac, a gyda dylunio syfrdanol gan Luned Gwawr Evans, mae hwn yn berfformiad cofiadwy i’r teulu cyfan – beth bynnag eich lefel o Gymraeg – sy’n dod atoch chi y Gwanwyn yma.