A hwythau wedi’u cymeradwyo gan Dolly ei hun yn fyw ar The One Show y BBC gan ddweud, “Rydw i’n dymuno’r gorau iddyn nhw ac yn eu gwerthfawrogi nhw am berfformio Dolly a Kenny mor dda am gymaint o amser.”
Mae sioe deithiol teyrnged cerddoriaeth gwlad a gwerin fwyaf y byd yn dod gyda chast arobryn ac wedi ymddangos yn Theatr West End Leicester Square yn Llundain, Grand Ole Opry a Broadway yn Nashville.”
A hwythau wedi’u disgrifio gan Kenny Rogers fel “dynwaredwyr Dolly a Kenny mwyaf blaenllaw Ewrop”, mae’r sioe hynod unigryw hon yn cael ei chyflwyno gan seren y sioe, “The Dolly Parton Experience”, a gafodd ei gweld yn fwyaf diweddar ar raglen Forrest Saunders ar sianel 5 Nashville ar y teledu yn yr UDA.
Mae Sarah Jayne, seren Dolly ar y teledu ac yn y West End, wedi bod yn perfformio fel Dolly Parton am 30 mlynedd a hi yw act deyrnged fwyaf blaenllaw Ewrop i’r Frenhines Cerddoriaeth Gwlad a Gwerin ar ôl perfformio yn ystod dwy ddaith ddiweddaraf Dolly Parton, yn diddanu ei gwesteion arbennig yn yr O2 Arena, Llundain. Ochr yn ochr â’r dynwaredwr llais teledu arobryn, Andy Crust, paratowch am daith yn ôl trwy amser i gwrdd â’r eiconau mwyaf dylanwadol sydd wedi llunio hanes cerddoriaeth gwlad a gwerin.
Mae’r sioe yn cynnwys dynwarediadau arobryn o Patsy Cline, Johnny Cash, Billie Jo Spears, Kenny Rogers, Willie Nelson, Tammy Wynette, Garth Brooks, John Denver, Glen Campbell, seren cerddoriaeth gwlad a gwerin o Ganada, Shania Twain, ac mae’n cynnwys The Country Superstars Band.
Mae’r dynwaredwyr blaenllaw wedi ymddangos ar Broadway yn Nashville (The Strip) yn y Legends Corner byd-enwog a Johnny Cash’s Bar & BBQ a chawson nhw eu hanrhydeddu yn y Grand Ole Opry yn Nashville lle enillon nhw Artist Teyrnged y Flwyddyn sydd wedi ymddangos ar sianel CBS Nashville ar y teledu yn yr UDA!
Mae pob artist nid yn unig yn edrych ac yn swnio fel y sêr cerddoriaeth gwlad a gwerin y maen nhw’n eu portreadu, mae’r perfformwyr proffesiynol hyn yn trawsnewid eu hunain trwy oriau o ymarfer eu crefft. Maen nhw’n ystyried yr holl fanylion, o’r sgript, dewis o ganeuon, gwallt, colur ac ystumiau, yn ogystal â gwisgoedd proffesiynol, propiau a chefndiroedd fideo.
Mae trosleisiau’r sylwebwyr yn ystod ein sioe yn cael eu darparu gan aelodau o deulu Dolly a’i ffrindiau; mae hyd yn oed neges arbennig gan Dolly ei hun.
Paratowch ar gyfer noson o ganeuon poblogaidd o gasgliad sy’n cynnwys 9 to 5, The Gambler, Islands in the Stream, Annie’s Song, Stand by Your Man, Ring of Fire, Crazy, Always on my Mind, Blanket on the Ground, Jolene, Lucille, Here You Come Again, That Don’t Impress Me Much, I Walk the Line, Take Me Home Country Roads, Man! I Feel Like a Woman, Coward of the County, Standing Outside the Fire, The Dance a Rhinestone Cowboy.
Bydd cerddoriaeth gwlad a gwerin yn parhau am byth a dyma sioe rhaid ei gweld i unrhyw un sy’n hoff o ganu gwlad a gwerin.