Yn ôl i'r brig

Pleth

Hafan » Beth sy' mlaen » Pleth
Family

Camwch o gyrraedd signal ac i mewn i goedwig law dymherus brin yng nghalon gorllewin Cymru.

Pan fo’r rhwydwaith symudol yn methu yn sydyn, aiff popeth yn banic llwyr, sgriniau yn rhewi a’r byd yn dad-gysylltu’n syth bin. Yn y llonyddwch sy’n dilyn, ry’n ni’n cymryd ennyd fach, anadlu a sylwi ar rywbeth hudolus yn dechrau cyniweirio.

Sylwn ar dirwedd byw, sy’n gynefin i ffwng cynhenid, pryfetach, adar a chreaduriaid, lle mae rhythmau byd natur yn cyd-gysylltu. O dan ein traed, mae rhwydwaith eang o myceliwm yn gwehyddu trwy wreiddiau coed hynafol gan gyfathrebu’n dawel.

Mae Pleth yn cyfuno symud, sain foley ac adrodd stori weledol gyda defnydd awgrymol o BSL, gan wahodd cynulleidfaoedd i fyd ymgollol, cyfoethog lle mae cydbwysedd delicet y goedwig yn dod yn fyw.

Wrth i dechnoleg ail-gynnau, mae’r ysfa i ail-gysylltu â’r byd digidol yn gwrthdaro â rhywbeth dyfnach…rhythm hynach, tawelach sy’n ein dysgu i aros, gwrando a gweld go iawn.

Addas i bawb. Perfformiad di-eiriau yw hwn. Bydd eiliadau o sain uchel i adeiladu tensiwn.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

3 Gorffennaf 2026

Comedy Night

Comedy
6 Gorffennaf 2026 - 8 Gorffennaf 2026

Caerphilly Dance Showcase

Dance
24 Gorffennaf 2026

Pit Party

Original Music
4 Medi 2026

Comedy Night

Comedy