Yn ôl i'r brig

Y Tir Bach | Little Lands

Hafan » Beth sy' mlaen » Y Tir Bach | Little Lands
Family

Daw’r creaduriaid bach yn eu llu
Dros y bryniau neu fyny fry

Mae rhywbeth yn siffrwd… Something rustles…

Yn ein gwlad pob man ni’n teithio
Yn ein gwlad feindio storiau syn cuddio

Dewch i weld… Come and see…

Hedfan, nofio neu gropio
yma y dônt yn eu tro.

Dilyn ni… Follow us…

Mae’r tiroedd hyn yn llawn straeon, yn llawn antur, ac mae cymaint i’w ddarganfod. Edrychwch o dan yr wyneb a chewch weld creaduriaid rhyfedd a gwyrthiol, harddwch anhygoel, a straeon direidus – hen a newydd – sy’n llifo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r sioe theatr ryngweithiol hon, sy’n addas i’r holl teulu, yn cael ei pherfformio’n ddwyieithog – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’n ddelfrydol ar gyfer siaradwyr un o’r ieithoedd, neu ddysgwyr y ddwy.

Archwiliwch amgylcheddau gwahanol a chreaduriaid sydd mewn perygl wrth i ni gychwyn ar antur trwy straeon dwyieithog gwreiddiol. Wedi’u hysbrydoli gan harddwch tirwedd Cymru, mae’r straeon hyn yn llawn cerddoriaeth a chwedleua.

Mae hyn yn rhan o brosiect celfyddydau creadigol a grëwyd gyda chymunedau ledled Cymru, ac ar eu cyfer, gan Flossy and Boo, Sefydliad y Glowyr Coed Duon a Green Squirrel. Fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Yn addas i bob oed.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

27 Tachwedd 2026 - 28 Tachwedd 2026

Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd: A Night and a Matineé at the Movies

Music
4 Rhagfyr 2026 - 30 Rhagfyr 2026

Aladdin

Family
8 Ionawr 2027

Comedy Night

Comedy
9 Ionawr 2027

Welsh Wrestling

Entertainment