Yn ôl i'r brig

Walk Like a Man

Hafan » Beth sy' mlaen » Walk Like a Man
Cerddoriaeth

Gadewch i ni fynd â chi yn ôl i 1962 – pedwar o fois prin yn crafu bywoliaeth, yn canu doowop o dan lampau strydoedd geirwon New Jersey. Roedd y pedwarawd newydd recordio cân a fyddai’n newid eu bywydau…

Tynnodd y record ‘Sherry’ y pedwar oddi ar y strydoedd, ymlaen i’r sioe deledu boblogaidd American Bandstand ac i frig y siartiau. Yr hyn a ddilynodd oedd llwyth o recordiau sengl ac albymau hynod lwyddiannus sydd wedi gwerthu dros 100 miliwn o gopïau ledled y byd.

Mae’r sioe Walk Like a Man yn dilyn hanes anhygoel y Four Seasons – yn fyw ar y llwyfan. Mae’r cynhyrchydd, Mark Halliday – a serennodd yn Jersey Boys yn y Prince Edward Theatre yn Llundain – wedi hel cast o berfformwyr y West End at ei gilydd gyda chefnogaeth cerddorion o sioeau llwyfan mwyaf poblogaidd y wlad.

Yn cynnwys: Sherry, Big Girls Don’t Cry, Oh What a Night, Walk Like a Man, Can’t Take My Eyes off of You, Beggin’, Let ‘s Hang On, Rag Doll, Working My Way Back to You, My Eyes Adored You, Bye Bye Baby, Fallen Angel, Grease, The Night, Who Loves You, Opus 17, Silence Is Golden, Big Man in Town, Dawn (Go Away) a Stay.

Wrthi’n gweithio’i ffordd trwy fwy na 30 o ganeuon sy wedi gwerthu miliynau, mae gennych chi noson o ganeuon ysgubol o’ch blaen chi! Cadwch eich seddi nawr ar gyfer hoff sioe deyrnged y wlad i Frankie Valli and the Four Seasons.

www.walklikeamanshow.co.uk

Efallai yr hoffech chi hefyd...

18 Mawrth 2026

Valleys Creative Showcase

Theatre
19 Mawrth 2026

Chronicles of the Unknown

Theatre
21 Mawrth 2026

Class of ’55

Cerddoriaeth
26 Mawrth 2026 - 28 Mawrth 2026

The Wizard of Oz

Theatre