Yn ôl i'r brig

Pride and Prejud(ish)

Hafan » Beth sy' mlaen » Pride and Prejud(ish)
Theatre

Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno:

Comedi newydd gan Richard Tunley.

Yn serennu yn y cynhyrchiad yma mae ZOË DAVIES, JEMIMA NICHOLAS, OLIVIA EDWARDS & KATE POWELL.

Yn dilyn llwyddiant Dai Cula: Prince of the Valleys, mae Black RAT Productions yn ôl gyda chomedi hwyliog lle mae Jane Austen yn dod benben â De Cymru fodern.

Mae Lizzie Bennet sy’n methu cael digon ar Austen-a-Bridgerton yn breuddwydio am amseroedd â rhagor o chwaeth – ond mae dal gafael ar y ffantasi’n anodd pan mae ei theulu ar fin chwalu.

Gyda’i Mam yn byw i’r eiliad yn Sbaen, Lizzie sydd â’r cyfrifoldeb gartref wrth i’w chwiorydd fynd ar ddisberod o’i chwmpas. Mae Lydia nawr yn Bridezilla llwyr oherwydd priodas y ganrif, mae Jane yn wynebu anawsterau gyda’i phriodas fregus ei hun, mae Kitty yn bygwth peidio bod yno ar y diwrnod mawr, a Mary? Fe aeth Mary i’r Brifysgol… a dyw hi heb fod yn ôl ers hynny.

Wrth i’r diwrnod mawr brysur agosáu, mae’r tyndra’n codi, mae cyfrinachau’n cael eu datgelu, ac mae balchder y teulu’n dod benben â rhagfarnau modern iawn.

Wedi’i pherfformio ag arddull arferol llawn egni Black RAT, mae’r gomedi gorfforol yma’n wirion o dda!

Rydyn ni’n argymell y ddrama yma ar gyfer pobl 14 oed a hŷn.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

15 Mehefin 2026

BMI Drama Showcase

Theatre
16 Mehefin 2026

Pâl | Puffin

Family
23 Mehefin 2026

Gala Concert: A Celebration of Community and Music

Performance Hire
26 Mehefin 2026

Pit Party

Original Music