Bîp Bîp! Paciwch eich picnic ar gyfer antur wyllt ar lan yr afon!
Ymunwch â Ratty, Mole, Badger a Toad wrth iddyn nhw rasio a sblasio eu ffordd trwy daith fythgofiadwy, i gyd yn arwain at ornest ysblennydd, llawn lliw i adennill Toad Hall oddi wrth y gwencïod drwg!
Mae Immersion Theatre, sydd wedi ennill llu o wobrau, yn dod ag egni nodweddiadol i’r clasur annwyl hwn gyda llwyth o ryngweithio â’r gynulleidfa, golygfeydd digidol trawiadol, gwisgoedd disglair, cerddoriaeth gofiadwy a chymeriadau difyr yn llenwi’r llwyfan.
Sioe arbennig y bydd pawb yn ei mwynhau o 4 i 104 oed!