Yn ôl i'r brig

The Mersey Beatles

Hafan » Beth sy' mlaen » The Mersey Beatles
Music

I’r rheini sy’n hoffi The Beatles, paratowch i gael eich syfrdanu gan hoff fand teyrnged y byd o Lerpwl i’r Fab Four.

Mae The Mersey Beatles wedi bod yn rocio sioeau gyda phob tocyn wedi’u gwerthu ledled y byd ers 1999 gyda’u dathliad hynod unigryw ac uchel ei glod o John, Paul, George a Ringo.

Mae’r band – a ymddangosodd dros 600 o weithiau mewn cyfnod preswyl 10 mlynedd yng nghlwb enwog y Cavern Club, Lerpwl – yn ymdebygu’n wych i ysbryd mewnol ac allanol y Fab Four gwreiddiol.

O’r gwisgoedd, yr offerynnau, yr hiwmor direidus Sgowsaidd ac, wrth gwrs, y sain Mersey arbennig a oedd yn diffinio’r cyfnod, mae sioe lwyfan fyw syfrdanol The Mersey Beatles yn ddathliad sydd wedi’i gyflwyno’n wych o’r gerddoriaeth a newidiodd y byd.

Yn ystod eu perfformiad bythgofiadwy sy’n para dwy awr, maen nhw’n mynd â’r gynulleidfa ar daith wych o ganeuon poblogaidd ‘mop top’ Beatlemania, creadigrwydd seicedelig Sgt Pepper i ryfeddod melodig ac egni gwaith diweddarach y Fab Four.

Felly, dewch yn llu, dewch yn llu ar gyfer y ‘Magical Mystery Tour’ – lle mae pawb yn siŵr o gael amser gwych!

Efallai yr hoffech chi hefyd...

10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music
12 Medi 2026

The Rocket Man – A Tribute to Elton John

Music
17 Medi 2026

Mynyddislwyn Male Choir

Music