Yn ôl i'r brig

Showgirls & Sharks

Hafan » Beth sy' mlaen » Showgirls & Sharks
Theatre

Showgirls and Sharks: Hunangofiant cerddorol gwallgof. 
Stori wir am sut y rhedodd merch ifanc i ffwrdd gyda’r syrcas a dod yn ddawnwraig Burlesque enwog o Gymru. 

Mae Showgirls and Sharks yn dilyn y ddawnswraig ddi-ofn “FooFoo LaBelle” trwy adrodd hanes ei bywyd ar ffurf sioe gerdd anhygoel. 

Gyda chyfeiliant y Maestro cerddorol Jenna Dyckhoff, mae’r ddeuawd sy’n ganeuon a dawnsio i gyd yn datgelu cyfrinachau’r ddawnswraig a deithiodd o amgylch y byd.



Bydd y daith am enwogrwydd hon yn gwneud i chi chwerthin, yn cyffwrdd â’ch emosiynau ac, ar adegau, yn torri’ch calon. Cewch weld taith o hunan-ddarganfod sy’n rhychwantu pum degawd a thri chyfandir. Byddwch chi’n cwrdd â dawnswyr bale, eliffantod syrcas, siarcod sy’n perfformio a chathod pantomeim yn ystod y noson unigryw hon o adrodd straeon, caneuon a chabaret.

Antur gerddorol sy’n datgelu stori wir am oroesi bywyd fel menyw, y byd adloniant a phopeth sydd gan y byd i’w gynnig cyn dod o hyd i’r llawenydd sy’n gysylltiedig â chartref. 
Stori anhygoel a fydd yn eich gwneud i chi gydganu, chwerthin yn uchel a sychu’ch dagrau wrth i chi ddarganfod bod dawnswragedd yn union debyg i win cain neu gaws drewllyd: maen nhw’n gwella gydag oed!

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

23 Hydref 2026

The Ultimate Classic Rock Show

Music
24 Hydref 2026

Thank Abba For The Music

Music
27 Hydref 2026

K-POP Icons

Music
28 Hydref 2026

Carw | Deer

Family