Yn ôl i'r brig

Ronnie, Reggie and Me

Hafan » Beth sy' mlaen » Ronnie, Reggie and Me
Entertainment

Yr olwg fanwl a diffiniol ar fywydau go iawn gangsteriaid mwyaf drwg-enwog Prydain.

Am ddegawdau, buon nhw’n rheoli byd troseddol Llundain trwy ofn a thrais. Ond, ym 1969, daeth teyrnasiad Ronnie Kray a Reggie Kray i ben yn sydyn pan gafodd y ddau eu dedfrydu i garchar am oes yn yr Hen Feili.

Treuliodd Reggie flynyddoedd dan glo yn rhai o garchardai llymaf Prydain, tra cafodd Ronnie ei gadw yn Broadmoor, gyda’i salwch meddwl yn cael ei reoli gan feddyginiaeth gref yn unig.

Ac yntau wedi’i ddewis gan yr efeilliaid eu hunain i adrodd eu stori swyddogol, daeth y darlledwr teledu enwog, Fred Dinenage, yn un o’r ychydig iawn o bobl a gafodd fynediad i’w cylch dethol – gan gael cipolwg rhyfeddol ar y bywydau go iawn y tu ôl i’r penawdau.

Bellach yn ymddangos yn fyw ar y llwyfan, mae Fred Dinenage yn rhannu straeon heb eu clywed o’r blaen ac adegau prin heb eu datgelu erioed – gan gynnwys recordiadau a gafodd eu gwneud yn ystod ei ymweliadau â Ronnie yn Broadmoor.

Gyda’r darlledwr Alex Dyke wrth y llyw, mae’r sioe afaelgar hon yn dod â chi’n agosach nag erioed at ddau o’r ffigurau mwyaf brawychus yn hanes trosedd – dynion na allai newyddiadurwyr eraill erioed ddod yn agos atyn nhw.

Clywch yn uniongyrchol sut brofiad oedd camu i mewn i sefydliadau mwyaf enbyd Prydain, a darganfod realiti garw bywyd y byd troseddol yn Llundain y 1960au – wedi’i adrodd gan yr unig ddyn yr oedden nhw’n ymddiried ynddo.

Canllaw oedran: 16+

Efallai yr hoffech chi hefyd...

4 Medi 2026

Comedy Night

Comedy
5 Medi 2026

Pit Party

Original Music
10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music