Yn cael eu hadnabod fel ‘The Kings of Cool’, bydd y ‘Rat Pack’ yn dod â cherddoriaeth swing y 60au yn ôl gyda mymryn o gomedi.
Peidiwch â cholli’r deyrnged hon i rai o’r perfformwyr gorau erioed.
Gallwch chi ddisgwyl clywed y caneuon jazz a swing mwyaf eiconig, fel New York, New York; That’s Life; I’ve Got You Under My Skin; Mr Bojangles ac, wrth gwrs, My Way.
Byddwch yn barod i fwynhau noson o jazz a swing, wedi’i pherfformio gan y cast dawnus o gantorion a cherddorion.