Yn ôl i'r brig

O Little Town of Aberystwyth

Hafan » Beth sy' mlaen » O Little Town of Aberystwyth
Theatre

“Plant yn canu, seirenau’r heddlu’n seinio, cnau castan yn cael eu dwyn o dân amddifad …. ac mewn stryd gefn frwnt yn yr ardal Dsieineaidd mae Siôn Corn un o’r siopau mawr yn gorwedd yn farw mewn pwll o’i waed ei hun – Aberystwyth adeg y Nadolig.”

Mae Brenhines Denmarc yn llogi’r unig dditectif preifat yng Ngheredigion, Louie Knight. Mewn pum niwrnod, gyda’i bartner ffyddlon Calamity, rhaid iddo ddatrys yr achos – os nad yw’n llwyddo, ni fydd Nadolig, dim anrhegion i’r plant a dim cyngerdd ar gyfer y pengwiniaid sy’n hoffi canu carolau ….

Yn dilyn llwyddiant Aberystwyth Mon Amour yn 2016, mae Lighthouse Theatre yn dychwelyd gyda’r perfformiad cyntaf ar y llwyfan o nofel noir Gymreig arall gan Malcolm Pryce.

Gyda Llinos Daniel yn cyfarwyddo a gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Kieran Bailey, dyma gynhyrchiad ar y cyd rhwng Canolfannau Celfyddydau Pontardawe ac Aberystwyth gyda chymorth Cyngor Celfyddydau Cymru a Thŷ Cerdd.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

5 Medi 2025 - 9 Ionawr 2026

Comedy Night

Comedi
12 Medi 2025

The Take That Experience

Cerddoriaeth
13 Medi 2025

Big Girls Don’t Cry

Cerddoriaeth
16 Medi 2025

Full House – Wedi Canslo

Theatre