Yn ôl i'r brig

Blaidd | Wolf

Hafan » Beth sy' mlaen » Blaidd | Wolf
Family

Udwch ar y lleuad a llamu’n wyllt gyda’ch cnud,
Carlamwch i’r coed, troi’ch cefn ar y byd
Anturiwch heb wybod pa beth sy’n eich aros,
Trwy goedwigoedd dychymyg i’n cartref bach clòs.

Mae Blaidd yn brofiad theatr aml-synhwyraidd dwyieithog i blant dan 5 oed a’u teuluoedd. Mae’n canolbwyntio ar adrodd straeon, iaith ac ail-wylltio ein hunain. Mae’r cynhyrchiad hwn yn plethu’n ddi-dor rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Perffaith ar gyfer pobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr Cymraeg ac mae’n wych ar gyfer meddyliau ifanc.

Mae Blaidd yn dilyn stori blaidd wrth iddo deithio drwy ei famwlad, gan ddod ar draws creaduriaid chwedlonol a mynd ar drywydd eu hamgylchoedd. Gan grewyr Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), paratowch i gael eich swyno gan y profiad theatrig hudolus hwn a fydd yn eich gadael yn udo am fwy!

Ar ôl y sioe, beth am aros am fwy o hwyl yng nghoedwig Blaidd, wrth i ni greu crefftau y gallwch chi fynd â nhw adref ar gyfer eich anturiaethau eich hun?
Disgwyliwch chwerthin, adenydd sigledig, tirweddau sain meddal ac opsiynau o grefftau sy’n addas ar gyfer pob anturiaethwr bach (a’u hoedolion!).

Efallai yr hoffech chi hefyd...

25 Ebrill 2026

10 Years of Studio 54

Entertainment
28 Ebrill 2026

The Four Seasons

Dance
1 Mai 2026

The Carpenters – Voice of The Heart

Music
2 Mai 2026

Mr Blue Sky

Music