Yn ôl i'r brig

Man in the Mirror

Hafan » Beth sy' mlaen » Man in the Mirror
Music

michael jackson tributeYmunwch â ni am noson wefreiddiol, wrth i ni ddathlu cerddoriaeth enwog BRENIN POP.

Dyma ‘Man in the Mirror’ – y cyngerdd teyrnged trydanol, newydd sbon i Michael Jackson.

Seren y sioe yw CJ, sef un o artistiaid teyrnged Michael Jackson gorau’r byd, gyda chast talentog o berfformwyr a cherddorion sy’n cyfleu steil a charisma unigryw Michael Jackson. Bydd y cynhyrchiad bywiog hwn yn eich cadw chi ar ymyl eich sedd.

Mae’n cynnwys ei holl ganeuon mwyaf poblogaidd rydych chi’n dwlu arnyn nhw, gan gynnwys ‘Thriller’, ‘Billie Jean’, ‘Beat It’, ‘Smooth Criminal’ ac, wrth gwrs, ‘Man in the Mirror’. Hefyd, mae coreograffi rhyfeddol, effeithiau gweledol syfrdanol, sioe oleuadau a gwisgoedd sy’n debyg i’r rhai gwreiddiol. Dyma’r sioe sy’n talu teyrnged i waddol cerddorol Jackson.

Felly, p’un a ydych chi’n gefnogwr gydol oes neu’n profi hud Michael Jackson am y tro cyntaf, byddwch yn barod i fynd yn ôl mewn amser, am noson heb ei thebyg.

Sioe newydd sbon gan Entertainers.

Tocynnau ar werth nawr, ar daith ledled y wlad.

So, whether you’re a lifelong fan or experiencing the magic of Michael Jackson for the first time, get ready as we take you back in time, for a night like no other.

Brand new from Entertainers.

Tickets on sale now, touring nationwide.

Oriel digwyddiad

Efallai yr hoffech chi hefyd...

11 Mehefin 2026

White Lies

Theatre
12 Mehefin 2026 - 3 Gorffennaf 2026

Comedy Night

Comedy
15 Mehefin 2026

BMI Drama Showcase

Theatre
16 Mehefin 2026

Pâl | Puffin

Family