Yn ôl i'r brig

Pinocchio

Hafan » Beth sy' mlaen » Pinocchio
Family

Fersiwn newydd gan Jennifer Lunn
Cyfieithiad Cymraeg gan Hanna Jarman

Daw Theatr y Sherman â’i chyflwyniad newydd a llawen o un o straeon mwyaf hudol y byd – Pinocchio i Sefydliad y Glowyr Coed Duon fis Tachwedd yma.

Mae Pinocchio yn dyheu am gael bod yn fachgen go iawn, er mwyn gweld y byd mawr. Mae e eisiau bod ‘yn dda, yn garedig ac am ddweud y gwir’, ond ar ôl dweud celwydd bach mae ei drwyn yn tyfu ac mae’n mynd ar antur wyllt yn llawn peli eira, gemau gwirion, ffrindiau direidus newydd a llond trol o hwyl.

A fydd Pinocchio yn dysgu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n anghywir ac yn cyrraedd adre mewn pryd i’r Nadolig?

Pinocchio yw’r cyflwyniad perffaith i ryfeddod theatr fyw i blant 3-6 oed a’u teuluoedd. Yn llawn dop â cherddoriaeth, chwerthin a llu o gymeriadau poblogaidd a ddaw’n fyw diolch i gast o actorion-cerddorion.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music
12 Medi 2026

The Rocket Man – A Tribute to Elton John

Music
17 Medi 2026

Mynyddislwyn Male Choir

Music