Dyma gyfle i’r rheini sy’n hoffi canu gwlad gael blas o Nashville gyda sioe boblogaidd Soul Street Productions; Made in Tennessee – A Night of Country Music.
Gyda band sy’n cynnwys rhai o gerddorion canu gwlad gorau’r DU, bydd Made in Tennessee yn eich tywys chi drwy ddegawdau o’r genre gerddoriaeth sy’n tyfu gyflymaf yn y wlad, o’i gwreiddiau yn nhaleithiau deheuol yr Unol Daleithiau i’r gerddoriaeth fodern sy’n boblogaidd ledled y byd.
Gan gynnwys clasuron gan Johnny, June, Dolly a Hank, eiconau megis Garth Brooks a Carrie Underwood a sêr canu gwlad modern megis Kacey Musgraves a Chris Stapleton.
Cadwch le nawr er mwyn gweld y sioe orau i’r dwyrain o Dennessee!