Mae James Wilton Dance, un o gwmnïau dawns mwyaf poblogaidd Ewrop, yn cyflwyno The Four Seasons.
Gan ddefnyddio fersiwn wedi’i hailgyfansoddi gan Max Richter o waith arloesol Vivaldi, The Four Seasons, mae James Wilton Dance wedi creu gwaith o symudiadau corfforol aruthrol, ynni ysgogol a harddwch ysgubol.
Mae’r gwaith yn cynnwys cyfuniad unigryw y cwmni o capoeira, acrobateg, crefft ymladd a dawnsio clasurol, ochr yn ochr â dyluniadau llwyfan a gwisgoedd syfrdanol.
Mae’r coreograffi, sy’n haniaethol ond eto’n ddynol onest, yn cysylltu pob un o bedwar tymor y cyfansoddiad cerddorol â phedwar cam y bydysawd, gan greu gwledd weledol galeidosgopig i gynulleidfaoedd na ddylech chi ei cholli.
Cafodd James Wilton Dance ei sefydlu yn 2010. Mae’r cwmni wedi ennill gwobrau yng nghystadlaethau coreograffi rhyngwladol Bern, Hanofer a MASDANZA a Sadler’s Wells Global Dance Contest.
Cafodd gwaith noson lawn cyntaf y cwmni, Last Man Standing (2014), ei berfformio 78 o weithiau ac enillodd wobr yn y Bern Tanzprize yn y Swistir.
Teithiodd y cynyrchiadau dilynol, LEVIATHAN (2016) a The Storm (2018), hyd yn oed yn fwy helaeth, gan gyflawni bron i 200 o berfformiadau rhyngddyn nhw, gan gynnwys perfformiadau gyda phob tocyn wedi’u gwerthu yng Ngŵyl Fringe Caeredin, perfformiadau yn yr Almaen, Gibraltar, Awstria, Periw, Sbaen, Gwlad Pwyl a Sweden. Cafodd LEVIATHAN ei enwebu ar gyfer y cynhyrchiad dawns gorau yn y Manchester Theatre Awards.
Mae James Wilton wedi creu gweithiau ar gyfer Scottish Dance Theatre, Konzert Theater Bern, Theater Münster, Opera Graz, Ballet Hagen, Staddtstheater Braunschweig a’r cwmni dawns Giessen, ac wedi coreograffu gweithiau ar gyfer dros 50 o ddawnswyr proffesiynol yn Stadiwm y Mileniwm a Stadiwm Wembley (gan gyrraedd dros 110,000 o bobl yn y broses).