Yn y 50au a’r 60au, fe wnaeth Ewan MacColl, ynghyd â Charles Parker a Peggy Seeger, greu darlleniadau arloesol Radio Ballads ar gyfer Gwasanaeth Cartref y BBC yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a gan ddefnyddio fformat dogfen sain i dynnu sylw at brofiadau pobl go iawn sy’n gwehyddu lleisiau cymunedau nad ydyn nhw’n cael eu clywed yn aml, gyda chaneuon wedi’u hysgrifennu o’u cyfweliadau wedi’u recordio ac amdanyn nhw.
Bron i hanner canrif yn ddiweddarach, yn 2006, cafodd set newydd o Radio Ballads eu comisiynu gan BBC Radio 2 gan ddefnyddio’r un fformat, ond y tro hwn gan gynnwys tîm cyfan o gerddorion, cantorion a chyfanswoddwyr serol o’r byd cerddoriaeth gwerin/acwstig/gwreiddiau dan ofal arweiniol a llygaid barcud y cynhyrchydd John Leonard a’r cyfarwyddwr cerddorol John Tams.
Bellach, mae tri aelod o’r tîm hwnnw, Bob Fox, Jez Lowe a Julie Matthews, wedi rhoi detholiad o ganeuon at ei gilydd o’r Radio Ballads newydd yn 2006 ar gyfer perfformiad cyngerdd IN THE FOOTSTEPS OF EWAN MacCOLL.
Mae’r tri yn berfformwyr difyr penigamp o ganeuon a storïau ystyrlon ac yn aml-offerynwyr y mae eu sgiliau wedi’u datblygu gan ddegawdau o deithio byw ledled y DU, Ewrop, Canada, UDA, Awstralia a Seland Newydd. Maen nhw’i gyd wedi recordio’n helaeth, wedi cydweithio â nifer o’r artistiaid a’r bandiau gorau o wreiddiau gwerin yn ogystal â chael gyrfaoedd unigol hynod lwyddiannus ac maen nhw’n boblogaidd ac yn cael eu parchu gan gynulleidfaoedd a chydweithwyr fel ei gilydd.
Byddwch yn barod i gael eich diddanu a’ch goleuo gan ganeuon am lawenydd, cariad, caledi a hiwmor.