Noson gyffrous o gerddoriaeth â thema James Bond, yn cynnwys Denmark Street Big Band o Lundain. Bydd y band yn perfformio ochr yn ochr â’u gwesteion rhyngwladol – y cantorion o’r West End, Glen Macnamara a Sabrina Carter – wrth iddynt gyflwyno rhai o’r themâu cerddorol mwyaf enwog.
Does dim byd yn cyfateb i’r cyffro a deimlir wrth wrando ar Big Band gwirioneddol wych. O gerddoriaeth Big Band gynnar i gerddoriaeth gyfoes, boed yn lleisiol neu’n offerynnol, mae ein repertoire yn cynnwys gweithiau gan y cyfansoddwyr a’r trefnwyr gorau oll.
Bydd Denmark Street Big Band yn mynd â chi ar daith gerddorol sy’n rhychwantu 60 mlynedd o gerddoriaeth eiconig James Bond.
Mae Denmark Street Big Band yn perfformio gyda’u hegni a’u steil unigryw eu hunain. Mae’r cyngerdd hwn wedi’i ddosbarthu fel un ‘For Your Ears Only’.