Yn ôl i'r brig

Disco Inferno

Hafan » Beth sy' mlaen » Disco Inferno
Music

Dewch i ni ddawnsio, dewch i weiddi, a dewch i siglo’ch corff i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gyda’r sioe anhygoel hon sy’n cynnwys goleuadau disglair ac yn addo hwyl a sbri trwy’r noson…

Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am fynd i Stiwdio 54 yn Efrog Newydd, mae Disco Inferno yn mynd â chi yno – mewn dathliad o bopeth D.I.S.G.O. sy’n llawn canu a dawnsio.

Yn cynnwys caneuon The Bee Gees, Village People, The Jacksons, Sister Sledge, Rose Royce, ABBA, Donna Summer, Barry White, Kool and the Gang, Earth Wind and Fire, Gloria Gaynor, Billy Ocean, The Weather Girls, Candi Staton, The Trammps, The Gap Band, Wild Cherry a mwy. Bydd harmonïau perffaith, band bendigedig a choreograffi sy’n fwy slic na ‘Saturday Night Fever’ yn dod at ei gilydd mewn un noson yn y disgo na fyddwch chi fyth yn ei hanghofio.

Dyma’r sioe fwyaf ffynci i ddod i’r dref – yn adfywio synau, steil a dawnsio’r saithdegau: ‘HipShakin’, Hotsteppin’ Legwarmin’, Flaresflappin’, Afrogleanin’ Ghettoblastin’, Platformpoundin’, Hustlebustin’, Cooldiggin.’
www.discoinfernouk.co.uk

Efallai yr hoffech chi hefyd...

10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music
12 Medi 2026

The Rocket Man – A Tribute to Elton John

Music
17 Medi 2026

Mynyddislwyn Male Choir

Music