Yn ôl i'r brig

Beauty and the Beast

Hafan » Beth sy' mlaen » Beauty and the Beast
Teulu

Mae cyn-arwerthiant yn dechrau Dydd Mawrth 26 Mawrth am 10am ar gyfer ein tanysgrifwyr e-bost. Bydd ar werth i’r cyhoedd ar ddydd Iau 28 Mawrth.

Bydd gostyngiad Cynnig Cynnar yn cael ei gymhwyso ar y til.

Trodd Tywysog yn Fwystfil erchyll trwy felltith.

Merch hardd sy’n dal o fewn ei chalon yr allwedd a fydd yn rhyddhau’r Bwystfil o’i dynged ofnadwy.

Castell arswydus.

A thylwyth teg gyda’r pŵer i newid Dyn yn Bwystfil.

Dyma rai o’r cynhwysion hudolus sydd wedi gwneud Beauty and the Beast yn ffefryn tragwyddol ymhlith darllenwyr a chynulleidfaoedd ers i’r chwedl gael ei hadrodd am y tro cyntaf tua 1740. Sydd fel y gwyddoch tua ugain munud i chwech! O dyw’r jôcs yn y panto yma ddim yn mynd yn llawer mwy ffraeth na hynny!

Mae fersiwn Rainbow Valley Productions o Beauty and The Beast yn dod â gwefr, rhamant a chyffro’r stori ynghyd â chanu a dawnsio gwefreiddiol.

Ac yn naturiol mae hefyd yn orlawn o gomedi doniol – beth arall fyddai’n ei ddisgwyl pan mai Owen Money yw seren y sioe?

Efallai yr hoffech chi hefyd...

19 Mehefin 2025

One Foot In The Groove

Cerddoriaeth
12 Medi 2025

The Take That Experience

Cerddoriaeth
13 Medi 2025

Big Girls Don’t Cry

Cerddoriaeth
17 Medi 2025

An Evening with Jonathan Davies

Adloniant