Yn ôl i'r brig

Andy Fairweather Low & The Lowriders

Hafan » Beth sy' mlaen » Andy Fairweather Low & The Lowriders
Cerddoriaeth

Daeth Andy Fairweather Low i amlygrwydd fel prif leisydd Amen Corner. Yn ystod y 1960au, fe wnaeth y band lwyddo i gael caneuon poblogaidd dro ar ôl tro. Mae caneuon fel ‘Bend Me, Shape Me’, ‘Hello Susie’ ac ‘(If Paradise Is) Half as Nice’ yn adnabyddus yn rhyngwladol hyd heddiw. Ond, os oeddech chi’n talu sylw, mae’n bosibl y gwnaethoch chi gael cliw yn eu sengl gyntaf – y gân wych, ‘Gin House’ – ynghylch cydweithrediadau cerddorol Andy yn y dyfodol.

Ers y dyddiau cynnar, mae Andy wedi mynd ymlaen i weithio gydag Eric Clapton, George Harrison, Bob Dylan, Jimi Hendrix, David Crosby, The Band, Elton John, Roger Waters, David Gilmour, The Who, BB King, Joe Cocker, Steve Winwood, Linda Ronstadt, Emmylou Harris, Joe Satriani, Jeff Beck, The Impressions, Lonnie Donegan, Mary J. Blige, Georgie Fame, Bonnie Raitt, Otis Rush, Van Morrison, Chris Barber, Jackson Browne, Bill Wyman, Sheryl Crow, Pete Townshend, Kate Bush… a channoedd eraill.

Ac yntau bellach yn unawdwr, cafodd ei albwm cyntaf fel unawdwr ers 24 mlynedd – ‘Sweet Soulful Music’ – ei ryddhau ddiwedd 2007, ac yna ‘The Very Best of Andy Fairweather Low’ a gafodd ei ryddhau yn y Deyrnas Unedig ym mis Mehefin 2008, gyda chyngerdd byw ar DVD yn fuan ar ôl hynny.

Mewn gwirionedd, mae Andy wedi bod ar deithiau ac yn rhyddhau albymau ar ffurf CD byth ers hynny. Mae wedi denu llawer o edmygwyr, ac yntau wedi rhyddhau 10 albwm erbyn hyn – gan gynnwys dau gyngerdd byw ar DVD, a set focs o dair disg DVD a CD dwbl. Roedd y rhain, yn ôl Amazon, ymhlith y 50 uchaf o ran setiau bocs yn ystod yr wythnos gyntaf ar ôl eu rhyddhau. Wedi hynny, cafodd y cyngerdd byw ar y Rhyngrwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ei ryddhau ar ffurf finyl dwbl. Yn ddiweddar, cafodd yr albwm ‘Flang Dang’ ei ryddhau ar ffurf CD a finyl ac, ym mis Chwefror 2025, cafodd yr albwm ‘The Invisible Bluesman’ ei ryddhau ar ffurf finyl glas, CD ac i’w lawrlwytho.

Fe wnaeth Eric Clapton wahodd Andy i berfformio fel artist dan sylw yn Crossroads Guitar Festival 2023, yn Los Angeles, ac eto gyda’i fand, The Low Riders, i agor cymal y Deyrnas Unedig ac Iwerddon o’i daith yn 2024, ac nawr ar ddyddiadau ei berfformiadau yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop ar ei daith yn 2025.

Prif leisydd rhyfeddol, band rhyfeddol. Yn 2025, aeth yr albwm ‘The Invisble Bluesman’ yn syth i frig y siartiau swyddogol yn y Deyrnas Unedig ac fe wnaeth y daith yn y gwanwyn dorri pob record, gan werthu 99% o’r tocynnau ar gyfer y daith gyfan.

Andy Fairweather Low – gitâr a llais; Ian Jennings – bas; Paul Beavis – drymiau; Nick Pentelow – sacsoffon tenor / sacsoffon bariton a’r clarinét; Richard Milner – organ Hammond a llais cefndir; Pete Cook – sacsoffon bariton.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

17 Chwefror 2026

Dwrgi | Otter

Teulu
19 Chwefror 2026

The Zoots Sounds of the 60s Show

Cerddoriaeth
20 Chwefror 2026

Gwen yr Arth Wen

Teulu
24 Chwefror 2026

The Time Machine

Theatre