Yn ôl i'r brig

Telerau ac amodau

Amodau Gwerthu

Dylech chi ddarllen y telerau ac amodau canlynol yn ofalus, gan ei bod yn bwysig i chi ddeall y berthynas gontractiol rydych chi’n ymrwymo iddi drwy brynu tocyn dros y ffôn, dros y cownter neu drwy’r wefan.

  1. Mae’r rheolwyr yn cadw’r hawl i:

1.1 Gwrthod mynediad i’r safle a/neu fynd â chi o’r lleoliad neu unrhyw berfformiad yn yr amgylchiadau canlynol: (a) os ydych chi neu unrhyw un yn eich parti yn ymddwyn mewn ffordd a fydd – neu a fydd o bosibl – yn cael effaith niweidiol ar fwynhad pobl eraill yn ein lleoliad neu unrhyw berfformiad; (b) os ydych chi, yn ein barn ni, yn ymddwyn mewn modd afresymol oherwydd eich bod chi dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau neu fel arall; (c) os ydych chi neu unrhyw un yn eich parti yn ymddwyn mewn modd bygythiol neu ymosodol a/neu yn defnyddio iaith fygythiol, ddifrïol neu sarhaus at ein staff neu aelodau o’r cyhoedd.

1.2 Gofyn i ddeiliad y tocyn adael y safle a chymryd unrhyw gamau priodol i orfodi cais o’r fath.

1.3 Bydd y lleoliad yn ceisio gadael hwyrddyfodiaid i mewn ar y cyfle addas cyntaf, a all fod yn ystod yr egwyl. Yn achos rhai digwyddiadau, ni ellir gwarantu mynediad hwyr.

1.4 Gwneud unrhyw newid o gwbl i’r perfformiad/digwyddiad/rhaglen/cast oherwydd unrhyw achos na fu modd ei ragweld neu ei osgoi.

1.5 Canslo neu roi’r gorau i’r perfformiad/digwyddiad am resymau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth heb rybudd a heb fod yn atebol i dalu i unrhyw berson unrhyw ddigollediad neu iawndal o gwbl ac eithrio, ar ddisgresiwn y rheolwyr, o bosibl ad-dalu canran neu’r cwbl o werth y tocyn i ddeiliad y tocyn.

1.6 Mewn amgylchiadau eithriadol, rydyn ni’n cadw’r hawl i gynnig seddi gwahanol i’r rhai a nodir ar y tocynnau.

1.7 Gosod cyfyngiadau ar nifer y tocynnau a archebir.

  1. Amodau gwerthu cyffredinol

2.1 Gellir ail-argraffu tocynnau am seddi cadw, sydd wedi’u colli neu eu hanghofio, ar ddiwrnod y perfformiad gyda phrawf o bwy ydych chi. Gellir ail-argraffu tocynnau am sioeau heb seddi cadw ar ddiwrnod y perfformiad, ond cewch chi eich gadael i mewn i’r awditoriwm ar ôl i bawb arall fynd i’w sedd.

2.2 Mae Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn gweithredu fel asiant tocynnau ar gyfer digwyddiadau allanol. Nid yw’r digwyddiadau hyn yn cael eu hyrwyddo gan Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, ac nid ydyn ni’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw agwedd ar eu rhaglen nac eu gweithrediad. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at yr hyrwyddwr dan sylw.

2.3 Gall Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gael ei logi gan hyrwyddwyr allanol ar gyfer digwyddiadau. Nid yw’r digwyddiadau hyn yn cael eu hyrwyddo gan y lleoliad ac nid ydyn ni’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw agwedd ar eu rhaglen nac eu gweithrediad. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y cwmni llogi dan sylw.

2.4 Os hawlir consesiwn, mae’n bosibl y bydd prawf o bwy ydych chi a’ch hawl chi i gael consesiwn yn ofynnol a dim ond un gostyngiad y gellir ei roi i bob tocyn. Mae’n bosibl y bydd gostyngiadau’n gyfyngedig.

2.5 Rhaid i chi roi i ni fanylion cywir amdanoch chi a’ch archeb chi ar adeg eich archeb, p’un a yw’r archeb yn cael ei gwneud ar lein, dros y ffôn neu’n bersonol. Ar ôl cael eich tocynnau, gwiriwch fod eich tocynnau ar gyfer y digwyddiad, dyddiad ac amser cywir, gan na ellir unioni camgymeriadau ar ddiwrnod y digwyddiad o angenrheidrwydd.

2.6 Mae’n bosibl y bydd cyfyngiad oed ar ddigwyddiadau a chyfrifoldeb deiliad y tocyn yw gwirio hyn cyn prynu tocyn.

2.7 Rhaid i ddeiliaid tocynnau gydymffurfio â’r holl statudau perthnasol, cyhoeddiadau diogelwch a rheoliadau’r lleoliad wrth fynychu’r digwyddiad.

2.8 Rhaid i blant iau nag 16 oed fod ag oedolyn (18 oed neu’n hŷn), rhiant neu warcheidwad gyda nhw a rhaid i bob un fod â thocyn dilys.

2.9 Rhaid rhoi gwybod i’r lleoliad am unrhyw ofynion mynediad ar adeg y gwerthiant. Os na roddir gwybod i’r lleoliad am ofynion mynediad, ni all warantu y darperir seddi hygyrch, cyfarpar a/neu fannau i gadeiriau olwyn.

2.10 Os ydych chi wedi prynu tocynnau/talebau rhodd ar ran pobl eraill, chi sy’n gyfrifol am roi gwybod i’r bobl hynny am y telerau ac amodau hyn ac am sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â nhw.

  1. Canslo tocynnau, cyfnewid tocynnau ac ad-daliadau am docynnau

3.1 Ni roddir ad-daliadau ond pan gaiff digwyddiad ei ganslo. Os na allwch chi fynd i ddigwyddiad, mae’n bosibl y gellir cyfnewid y tocynnau (yn amodol ar argaeledd) ar gyfer perfformiad arall. Codir tâl gweinyddol o £1.50 y tocyn, a dim ond hyd at 14 diwrnod cyn dyddiad y perfformiad y gellir ei wneud. Os yw’r tocynnau sy’n cael eu cyfnewid yn rhatach, ni fyddwn ni’n gallu ad-dalu’r gwahaniaeth. Fodd bynnag, os yw’r tocynnau’n ddrytach, rhaid talu’r swm sy’n weddill. Rhaid dychwelyd tocynnau gwreiddiol cyn y bydd tocynnau gwahanol yn cael eu cyhoeddi.

3.2 Pan gaiff perfformiad ei ganslo, bydd y swm llawn yn cael ei ad-dalu drwy siec neu gerdyn, gan ddibynnu ar y dull talu gwreiddiol. Nodwch, na allwn ni gynnig ad-daliad mewn arian parod. Bydd taliadau arian parod yn cael eu had-dalu drwy BACS.

3.3 Dim ond i’r sawl a brynodd y tocynnau y bydd ad-daliadau’n cael eu gwneud.

3.4 Yn achos digwyddiad a gaiff ei ohirio/ad-drefnu, cynigir i gwsmeriaid docynnau o’r un gwerth am y dyddiad/yr amser newydd, yn amodol ar argaeledd. Os nad yw’n bosibl cynnig tocynnau o’r un gwerth, mae’n bosibl y cynigir tocynnau gwahanol. Os nad yw’r cwsmer eisiau derbyn y tocynnau hyn, gellir cael ad-daliad am werth enwol y tocynnau.

3.5 Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i ganslo tocynnau y mae’n amau’n rhesymol eu bod nhw wedi’u harchebu’n dwyllodrus, sy’n fwy na’r cyfyngiadau a hysbysebir ar nifer y tocynnau y gall person/aelwyd eu prynu, neu y mae’n amau eu bod nhw wedi’u hailwerthu, neu y ceisiwyd eu hailwerthu, er elw ariannol. Bydd unrhyw gyfyngiadau perthnasol ar nifer y tocynnau y gellir eu prynu yn cael eu hegluro ar adeg archebu.

3.6 Gellir ychwanegu tocynnau at restr ailwerthu yn achos perfformiadau sydd bron â’u capasiti (tua 90% o’r tocynnau sydd ar gael wedi’u gwerthu) am gost o £3 y tocyn. Os caiff eich tocynnau eu gwerthu, bydd y swm heb y ffi o £3 yn cael ei ad-dalu i chi. Yna, byddwch chi’n cael e-bost gyda diweddariad. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r lleoliad os ydych chi am dynnu eich tocynnau oddi ar y rhestr ailwerthu a mynychu’r perfformiad. Ni all y lleoliad warantu y bydd eich tocynnau yn cael eu gwerthu.

  1. Cadw tocynnau

4.1 Gellir cadw tocynnau (heb dalu ar unwaith) os ydych chi’n archebu dros y ffôn neu yn bersonol yn swyddfa docynnau’r lleoliad. Byddwn ni’n cadw eich tocynnau am 14 diwrnod a rhaid talu amdanyn nhw’n llawn 14 diwrnod cyn dyddiad y perfformiad. Bydd unrhyw eithriadau yn ôl disgresiwn y swyddfa docynnau.

4.2 Os nad yw taliad llawn am docynnau cadw yn dod i law o fewn y cyfnod uchod, bydd yr archeb yn cael ei ganslo.

4.3 Bydd negeseuon e-bost yn cael eu hanfon yn awtomatig i atgoffa’r cwsmer o’i docynnau cadw.

  1. Prisiau tocynnau

5.1 Rhaid gwneud cais am gonsesiynau/ostyngiadau ar brisiau tocynnau ar adeg y pryniant, ac ni ellir eu cymhwyso i docynnau a brynwyd eisoes. Mae’n bosibl y gofynnir i’r cwsmer am brawf o’r hawl i gonsesiwn/ostyngiad/docyn cydymaith Hynt ar adeg archebu a/neu wrth fynychu’r digwyddiad. Mae’n bosibl y bydd methu â dangos prawf rhesymol o hawl i gonsesiwn/ostyngiad/docyn cydymaith Hynt yn gwneud y tocyn yn annilys ac yn arwain at wrthod mynediad i chi neu eich troi chi allan o’r lleoliad.

5.2 Cynigir consesiynau/gostyngiadau yn unigol ac ni ellir eu defnyddio ar y cyd â’i gilydd. Os yw’r cwsmer yn gymwys i gael mwy nag un gyfradd gonsesiynol/ostyngol, bydd yn cael y pris gostyngol sengl rhataf, nid pris gostyngol cronnol.

5.3 Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i gyflwyno gostyngiadau a chynigion arbennig ar unrhyw adeg ac ni ellir cymhwyso’r rhain i docynnau a brynwyd eisoes. Mae’r holl docynnau, mathau o brisiau a gostyngiadau yn dibynnu ar argaeledd, gellir eu newid a/neu eu tynnu’n ôl heb rybudd ymlaen llaw ac nid ydyn nhw’n gymwys i docynnau a brynwyd eisoes. Mae’r rheolwyr yn cadw’r hawl i gyflwyno cynigion a newidiadau i brisiau heb rybudd ymlaen llaw. Pris y tocyn fydd y pris a bennir ar yr adeg y caiff eich archeb ei derbyn.

5.4 Gall prisiau tocynnau newid. Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i newid prisiau tocynnau a/neu gyflwyno gostyngiadau/cynigion arbennig na ellir eu cymhwyso’n ôl-weithredol i docynnau a brynwyd eisoes.

  1. Ffioedd archebu

6.1 Yn unol ag arferion presennol y diwydiant yn achos theatrau a lleoliadau, bydd ffi archebu tocyn o £1 ynghlwm wrth bob tocyn a brynir yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein ar gyfer perfformiadau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Mae’r ffi hon wedi’i chynnwys yn y prisiau a welwch chi yn ein llyfryn hysbysebu a rhestri sioeau. Mae’r ffi yn cyfrannu at gynhyrchu’ch tocynnau, prosesu’ch archeb, gwella ein technoleg bresennol a pharhau i ddarparu gwasanaeth eithriadol i’n cwsmeriaid. Ein nod yw darparu gwasanaeth o’r safon uchaf i gwsmeriaid, p’un a ydyn nhw’n ymweld â ni yn bersonol neu’n ymwneud â ni dros y ffôn neu ar lein. Bydd y ffi fach hon yn ein galluogi ni i barhau i wneud hyn yn wyneb galwadau cynyddol ar adnoddau gwerthfawr.

6.2 Codir ffi uwch am yr holl docynnau rydyn ni’n eu gwerthu ar ran trydydd parti er mwyn talu costau prosesu’r lleoliad.

  1. 7. Gwaharddiadau a chydsyniad y gynulleidfa

7.1 Gwaherddir ailwerthu tocyn, neu geisio ailwerthu tocyn, heb awdurdod. Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i ganslo tocynnau y mae’n amau’n rhesymol y’u cynigiwyd eu hailwerthu heb awdurdod. Dylai cwsmeriaid sy’n ansicr a yw gwerthwr yn asiant awdurdodedig gysylltu â’r lleoliad i gael eglurhad. Nid yw’r lleoliad yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddilysrwydd tocynnau a brynir oddi wrth asiantau anawdurdodedig.

  1. 2 Oni cheir caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw oddi wrth y leoliad, ni cheir cyfuno tocynnau â lletygarwch, taith, llety, nwyddau a/neu unrhyw gynnyrch neu wasanaeth arall i greu pecyn tocynnau i’w werthu er elw masnachol.

7.3 Mae defnyddio cyfarpar i recordio neu ddarlledu deunydd sain a/neu weledol y tu mewn i’r lleoliad wedi’i wahardd yn llwyr. Gellir atafaelu a dinistrio recordiadau, tapiau, ffilmiau anawdurdodedig neu eitemau tebyg. Bydd unrhyw recordiad a wneir yn groes i’r amodau hyn yn eiddo i’r lleoliad a/neu hyrwyddwr y digwyddiad. Ni fydd yr hyrwyddwr na’r lleoliad yn atebol am golled, dwyn neu ddifrod i eitemau wedi’u hatafaelu. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid sy’n torri’r amod hwn yn cael eu gwahardd rhag mynychu perfformiadau pellach yn y lleoliad yn y dyfodol.

7.4 Trwy fynychu’r digwyddiad, mae cwsmeriaid yn rhoi eu cydsyniad i’w ffilmio, eu ffotograffio a gwneud recordiadau sain ohonyn nhw fel aelodau o’r gynulleidfa. Y lleoliad a/neu hyrwyddwr y digwyddiad fydd perchennog hawlfraint y fath ddeunydd a chaiff ddefnyddio’r fath ffilmiau/ffotograffau/recordiadau at unrhyw ddiben, gan gynnwys dibenion masnachol, heb daliad na hysbysiad pellach.

  1. 5 Rhaid i ffonau symudol, cyfarpar negeseua a’r holl gyfarpar electronig personol tebyg gael eu diffodd yn ystod y digwyddiad. Mae’n bosibl y bydd cwsmeriaid nad ydyn nhw’n cydymffurfio, ac sy’n tarfu ar fwynhad o’r digwyddiad i gwsmeriaid eraill, yn cael eu troi allan o’r lleoliad heb ad-daliad.
  2. Talebau rhodd

8.1 Gellir defnyddio talebau rhodd yn llawn neu’n rhannol i dalu am docynnau ar gyfer digwyddiadau sy’n cymryd rhan, yn bersonol neu dros y ffôn drwy swyddfa docynnau’r lleoliad neu ar wefan y lleoliad.

8.2 Mae talebau rhodd yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad cyhoeddi. Ni ellir cyfnewid talebau sydd wedi dod i ben ac ni roddir ad-daliad amdanyn nhw. Mae’r dyddiad dod i ben wedi’i argraffu’n glir ar bob taleb.

8.3 Ni ellir cyfnewid talebau rhodd am arian parod.

  1. Danfon

9.1 Os yw cwsmeriaid wedi dewis cael eu tocynnau drwy’r post neu eu hargraffu gartref, eu cyfrifoldeb nhw yw rhoi gwybod i’r lleoliad os nad yw’r tocynnau wedi dod i law cyn amser dechrau’r digwyddiad fel y’i hysbysebwyd. Os na roddir gwybod i’r lleoliad nad yw’r tocynnau wedi dod i law cyn dechrau’r digwyddiad, ni chynigir ail gopïau o’r tocynnau nac ad-daliad.

9.2 Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i bostio tocynnau dim ond i gyfeiriad bilio cofrestredig y cerdyn a ddefnyddiwyd i’w prynu.

9.3 Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i drefnu i’r tocynnau fod ar gael i’w casglu gan y cwsmer yn y swyddfa docynnau. Os bydd angen gwneud hyn, bydd y lleoliad yn gwneud pob ymdrech resymol i roi gwybod i’r cwsmer am y newid cyn y digwyddiad a bydd unrhyw ffioedd postio a dalwyd yn cael eu had-dalu.

9.4 Pan gaiff tocynnau eu casglu yn y swyddfa docynnau, mae’n bosibl y gofynnir i’r cwsmer ddangos y cerdyn a ddefnyddiwyd i brynu’r tocynnau fel ffordd o ddangos pwy ydyw. Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid iddo gysylltu â’r swyddfa docynnau cyn diwrnod y digwyddiad.

  1. Atebolrwydd

10.1 Ni fydd y lleoliad yn gyfrifol am unrhyw anaf nac am golli, dwyn neu ddifrodi eiddo personol cwsmer, ac eithrio’r hyn a achosir oherwydd esgeuluster neu dordyletswydd statudol arall.

10.2 Caiff trefniadau personol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i, deithio, llety a chynhaliaeth sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, eu gwneud yn gyfan gwbl ar fenter y cwsmer ei hun, ac ni fydd y lleoliad yn atebol am unrhyw golledion a achosir gan y trefniadau hyn.

  1. 3 Nid oes dim yn y telerau ac amodau hyn yn ceisio eithrio atebolrwydd y lleoliad am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ei esgeuluster nac unrhyw fater arall y byddai’n anghyfreithlon i ni eithrio neu geisio eithrio ein hatebolrwydd amdano.

10.4 Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, a’u dehongli yn unol â’r cyfreithiau hynny.

  1. Diffiniadau

Ystyr ‘tocyn’ yw unrhyw eitem, diriaethol neu anniriaethol, sy’n rhoi’r hawl i fynychu digwyddiad.

Mae ‘cwsmer’ yn cynnwys y sawl a brynodd tocynnau, neu sy’n bwriadu prynu tocynnau, a’r rheini yn ei barti sy’n mynychu’r digwyddiad, y mae’n rhaid i bob un ohonyn nhw feddu ar docyn dilys.

Ystyr ‘lleoliad’, ‘ni’ ac ‘ein’ yw Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, elusen rhif 1000905, a’r cyfeiriad cofrestredig yw Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon, Caerffili NP12 1BB.

Ystyr ‘hyrwyddwr’ yw’r endid sy’n llwyfannu/cynhyrchu’r digwyddiad, a all fod yn wahanol i’r lleoliad.

Ystyr ‘argraffu gartref’ yw’r dull danfon lle caiff tocynnau PDF eu hanfon at y cwsmer drwy e-bost.