Yn ôl i'r brig

Tam Lin Retold

Hafan » Beth sy' mlaen » Tam Lin Retold
Theatre

Efallai mai Tam Lin y mae’r faled yn cael ei galw, ond dim ond rhan ohoni ydy ef. A hithau’n cael ei hadrodd ar lafar gyda chyfeiliant sgôr cerddoriaeth fyw, dyma stori am demtasiwn, dewrder a newid siâp sy’n addo mynd â chi o dan y bryn gwyrdd a dod â chi’n ôl allan eto.

A hithau wedi’i disgrifio gan gynulleidfaoedd fel ‘swynol’ a ‘ffres a llawn bywyd’, mae Tam Lin Retold yn archwilio lleisiau di-glod llên gwerin Albanaidd/Saesneg. Yn hudolus ac yn graff i’r un graddau, dyma faledi o’r ffin sy’n wrthryfelgar ar gyfer yr hen a’r newydd.

Mae Corinne yn storïwr perfformio y mae ei gwaith yn ail-ganoli lleisiau ymylol a hanesion wedi’u tawelu o fewn llên gwerin, mythau a chwedlau. Yn ogystal ag ymgysylltu ag arferion adrodd straeon traddodiadol, mae hi’n defnyddio theatr gorfforol, comedi byw a chyfranogiad y gynulleidfa i greu perfformiadau adrodd straeon newydd sbon ar gyfer gynulleidfa fodern.

Mae Nick yn ganwr ac aml-offerynwr arobryn, sy’n fwyaf adnabyddus am ei waith gyda chaneuon traddodiadol Saesneg. Mae e wedi perfformio’n helaeth fel cerddor actor ac, fel cyfansoddwr/trefnydd, wedi darparu cerddoriaeth ar gyfer y radio, teledu, theatr a dawns.

Mae gan Corinne a Nick barch mawr at grefft ei gilydd ac maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd ar sawl achlysur. Tam Lin Retold yw eu cydweithrediad mawr cyntaf.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

23 Mehefin 2026

Gala Concert: A Celebration of Community and Music

Performance Hire
26 Mehefin 2026

Pit Party

Original Music
27 Mehefin 2026

Lipstick On Your Collar

Music
3 Gorffennaf 2026

Comedy Night

Comedy