Bydd y gynulleidfa’n camu i mewn i neuaddau hudolus Ysgol Hud a Dewiniaeth y Castell, lle mae hud yn yr awyr ac antur yn aros o amgylch pob cornel!
Byddant yn ymuno â “The Wizards Apprentice” wrth iddo gychwyn ar daith gyffrous yn llawn swynion, syrpréis a dirgelwch — a hynny o dan lygad barcud y Pennaeth ecsentrig a rhyfeddol, yr Athro Devant! A all y Prentis ymdopi â’r her, meistroli’r hud, a datgelu’r cyfrinachau sydd wedi’u cuddio o fewn y llyfr swynion dirgel?
Yn llawn chwerthin, rhyngweithio â’r gynulleidfa, triciau syfrdanol a drygioni hudolus, mae “The Wizards Apprentice” yn sioe deuluol hudolus sy’n sicr o blesio gwrachod, dewiniaid a ‘muggles’ o bob oed!