Yn ôl i'r brig

Jane Eyre

Hafan » Beth sy' mlaen » Jane Eyre
Theatre

Wedi colli ei rhieni… Wedi’i gorthrymu… Anorchfygol.

Mae brwydr Jane Eyre am ryddid, hapusrwydd ac ymdeimlad o berthyn yn datblygu’n rymus o greulondeb ei phlentyndod i gynteddau anerchus Thornfield Hall, lle mae hi’n darganfod angerdd, cyfrinachau tywyll, a chariad sy’n goresgyn pob rhwystr.

Mae rhamant gothig Charlotte Brontë – sy’n cael ei gosod yn erbyn cefndir rhostiroedd Swydd Efrog ac yn llawn awyrgylch hudolus ac emosiwn bythgofiadwy – yn adrodd stori am annibyniaeth, gwydnwch a’r dewrder i ddilyn eich calon.

Caiff y ddrama ei chyflwyno’n fyw ac yn gyffrous mewn cynhyrchiad newydd gan Conn Artists Theatre Company, yn dilyn eu haddasiad diweddar o “Far from the Madding Crowd”, gyda chast o bum actor a cherddoriaeth a chaneuon gwreiddiol.

Cyfarwyddir y ddrama gan Nick Young (RSC a Connaught Theatre, Worthing).

Mae “Jane Eyre” yn destun gosod ar gyfer arholiadau TGAU gyda’r byrddau arholu AQA, Edexcel, OCR ac Eduqas.

“Nick Young and Ross Muir have done an excellent job of adapting this play” ★★★★
(Liberty Nokes, Fairy Powered Productions on Far from the Madding Crowd)

“richly inventive adaptation”
(Sussex Express on Far from the Madding Crowd)

“as a faithful adaptation of the classic novel, it can’t be faulted in its accuracy”
(Southern Arts Reviews on Far from the Madding Crowd)

“a riveting example of ensemble theatre at its very best.” ★★★★★
(The Argus on Silas Marner)

“strong, vivid and emotional story telling.” ★★★★
(Remote Goat on Silas Marner)

“Conn Artists has made regional theatre feel in ruder health overnight.” ★★★★
(The Stage on The Four Men)

Efallai yr hoffech chi hefyd...

24 Gorffennaf 2026

Pit Party

Original Music
4 Medi 2026

Comedy Night

Comedy
10 Medi 2026

Pleth

Family
11 Medi 2026

The History of Soul

Music