
Gwelwch K-Pop Icons ar eu TAITH FYD-EANG!
🎤 Byddwch yn barod i ganu, dawnsio, a phartio fel erioed o’r blaen gyda K-Pop Icons – y cyngerdd byw anhygoel gyda band K-Pop rhithwir cyntaf y Deyrnas Unedig yn serennu yn ogystal â chriw dawns byw syfrdanol yn cyflwyno profiad unigryw i’r byd yn dathlu ffenomenon cerddoriaeth fyd-eang Corea!
🔥 A hithau’n llawn HOFF ganeuon selogion ffilm boblogaidd Netflix K-POP DEMON HUNTERS 🗡️💫, mae’r sioe egni uchel hon sy’n addas i deuluoedd, yn dod â byd K-Pop i theatr yn agos atoch chi, dan arweiniad rhithffurfiau digidol K-Pop gwreiddiol – mae ddawnswyr o’r radd flaenaf yn ymuno â K-Pop Icons ar y llwyfan.
Bydd plant ac oedolion yn syrthio mewn cariad ag‘ICON’ o’u dewis nhw ac yn cael y cyfle i helpu coroni eu hoff gymeriad yn y perfformiad byw a rhyngweithiol hwn.
Yn cynnwys caneuon o BLACKPINK, ROSÉ, BTS, TWICE, K/DA, KATSEYE a grwpiau o’r ffilm SAJA BOYS ac HUNTR/X, mae’r parti trochol hwn yn sioe sy’n addas ar gyfer pob oedran, p’un a ydych chi’n selog brwd, yn newydd sbon i don K-Pop, neu ddim ond yn dod gyda’ch eich helwyr cythreuliaid bach chi, mae at ddant pawb!
✨ Mae’r goleuadau ymlaen. Mae’r llwyfan wedi’i osod. Mae’n eich amser chi i ddisgleirio fel cawsoch chi eich geni i wneud. Gwnewch yr Honmoon yn euraidd gyda K-Pop Icons! 💫
Ymwadiad: Mae K-Pop Icons® yn fand K-Pop digidol gwreiddiol a nod masnach Red Ents Ltd. Gall perfformiadau gynnwys fersiynau dynwaredol o ganeuon wedi’u recordio a/neu wedi’u cyfansoddi yn wreiddiol gan drydydd partïon. Nid yw K-Pop Icons yn gysylltiedig ag unrhyw artistiaid, cyfansoddwyr, labeli recordiau, ffilmiau neu ddeiliaid hawliau gwreiddiol nac wedi’i gymeradwyo ganddyn nhw. Mae pob nod masnach, hawlfraint, ac eiddo deallusol arall yn parhau i fod yn eiddo i’w perchnogion priodol.