Yn ôl i'r brig

Yukon Ho!

Hafan » Beth sy' mlaen » Yukon Ho!
Theatre

Dewch i’r Yukon! Mae’n oer, yn dywyll ac yn unig, gydag anifeiliaid mawr, rebeliaid od a gwirod perig. Lle mae mwy o geirw na phobl, mae taflu llif gadwyn yn hobi ac mae gwylio eirth yn chwilota am sbwriel yn cael ei ystyried fel noson allan. Dyma lle gafodd ‘Intrepid Jen’ ei magu a phrin dianc yn fyw.

Ymunwch â’i chanllaw goroesi mewn arddull cabaret sy’n mynd dros ben llestri a dysgu i yfed coctels amheus, bod yn ‘Bear Aware’ a dianc y Gogledd Rhewllyd, Canada gan gicio’r Can-Can gyda’ch myclycs ar dân. Yn ddigon i dorri’ch calon, yn ddoniol ac yn rhyfedd, mae’r rhan fwyaf ohono fe’n wir.

‘Fascinating, laugh-out-loud funny and surprisingly tender’ **** (The List)

Efallai yr hoffech chi hefyd...

30 Medi 2026 - 2 Hydref 2026

Pride and Prejud(ish)

Theatre
7 Hydref 2026

Orbital

Dance
10 Hydref 2026

Tony Moore’s AWAKE

Original Music
16 Hydref 2026

Rave On

Music