Yn ôl i'r brig

You Choose

Hafan » Beth sy' mlaen » You Choose
Teulu

You Choose – mae pob sioe yn unigryw!

Yn seiliedig ar y llyfr penigamp gan Pippa Goodhart a Nick Sharratt, mae Nonsense Room Productions (sioeau Shark in the Park a Hairy Maclary) yn cyflwyno sioe gerdd ryngweithiol i’r teulu cyfan. Ond yn y sioe hon – CHI sy’n dewis beth sy’n digwydd!

Gan ddefnyddio’r llyfr lluniau fel ysbrydoliaeth a thrwy gyfres o gemau a heriau, bydd pob sioe yn unigryw gyda gwahanol gymeriadau, lleoliadau, gwisgoedd a llawer mwy bob tro!

“Mae’r cyfan mor ddifyr ac annisgwyl â’r llyfr, yn enwedig i’r bobl ifanc sy’n bresennol. Mae’r modd maen nhw’n mynd ati i ddewis yn hwyliog, gan wahodd gwirfoddolwyr ifanc o’r gynulleidfa i ddewis cymeriad….” David Pollock, The List

“Yn syml iawn, mae’n hwyl, mae’n ddoniol, mae’n ymddangos fel fformat syml ond, mewn gwirionedd, mae’n glyfar; mae’n sioe wych i’r teulu…” Anne Hamilton, Lothian Life

“Mae digon o ddewis a llwyth o egni yn addasiad Nonsense Room Productions o’r llyfr lluniau i blant, You Choose….” Thom Dibdin, All Edinburgh Theatre.

Addas i blant 2–7 oed.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

6 Chwefror 2025

The Four Seasons

Dawns
14 Chwefror 2025

Open Mic Night

Cerddoriaeth
15 Chwefror 2025

Money For Nothing

Cerddoriaeth
18 Chwefror 2025 - 20 Chwefror 2025

The Ancient Oak of Baldor

Theatre