Mae sioe hud a lledrith theatr hynaf Llundain, yn syth o theatr Leicester Square, yn cyflwyno rhai o’r enwau mwyaf cyffrous hud a lledrith ac adloniant y DU. Sioe gyffrous sy’n addas i’r teulu cyfan sy’n cynnig cymysgedd anhygoel o hud a lledrith, comedi ac actau adloniant, gan gynnwys Pencampwr Hud a Lledrith Prydain, Oliver Tabor, yr arweinydd hudol, Wayne Trice, yn ogystal ag actau gwestai arbennig.
Ers 2013, mae’r sioe reolaidd yn Llundain yn parhau drwy gydol y flwyddyn ac yn cynnwys hud a lledrith arobryn anhygoel, dirgelion darllen meddyliau, comedi doniol a gall gynnwys taflu’r llais, jyglo a styntiau gwallgof.
Yr wledd berffaith i’r teulu cyfan.
Yn sicr i gyflwyno’r gorau mewn hud a lledrith, rhithiau, comedi ac adloniant.