Yn ôl i'r brig

The History of Rock

Hafan » Beth sy' mlaen » The History of Rock
Music

Mae THE HISTORY OF ROCK yn ddathliad o gerddoriaeth ROC dros y degawdau. Noson ryfeddol sy’n mynd â chi drwy oesoedd aur ROC! Yn cynnwys cerddoriaeth gan artistiaid fel Led Zeppelin, Cream, Guns N’ Roses, AC/DC, Queen a llawer mwy.

Dewch i ailddarganfod hadau ROC A RÔL yn y 1950au, genedigaeth ROC yn y 60au, hyd at ROC CLASUROL Y 70au a’r 80au.

Sioe y mae’n rhaid ei gweld os ydych chi’n dwli ar gerddoriaeth ROC! Profwch y gerddoriaeth eiconig hon yn dod yn ôl yn fyw drwy fand byw eithriadol sy’n cynnwys rhai o’r cerddorion a’r perfformwyr gorau o bob cwr o’r byd, hen ffilmiau gweledol gwreiddiol o’r bandiau a’r artisitiad dan sylw, yn ogystal â llwyfannu a goleuo cyngerdd anhygoel.

Dewch i ail-fyw’r caneuon roc gorau erioed gyda THE HISTORY OF ROCK.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

27 Mai 2026

Folk Night

Original Music
29 Mai 2026

Welsh Wrestling

Entertainment
30 Mai 2026

90s Live

Music
1 Mehefin 2026

Meet Fred

Theatre