Yn ôl i'r brig

Romeo a Juliet

Hafan » Beth sy' mlaen » Romeo a Juliet
Dawns

From forth the fatal loins of these two foes
A pair of star-crossed lovers take their life

Mae Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics’ Circle, yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare, “Romeo a Juliet”.

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

“Mae “Romeo a Juliet” yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

But soft, what light through yonder window breaks?
It is the east, and Juliet is the sun.

Efallai yr hoffech chi hefyd...

6 Rhagfyr 2024 - 30 Rhagfyr 2024

Beauty and the Beast

Teulu
10 Ionawr 2025

Comedy Night

Comedi
11 Ionawr 2025

Welsh Wrestling

Adloniant
16 Ionawr 2025

An Evening with Shane, Lee & Hookie

Adloniant